The Bedlinog Inn

Tafarn Gymreig draddodiadol sydd wedi’i moderneiddio’n ddiweddar yng nghanol Bedlinog, hen bentref Cymreig.

Mae’r Bedlinog Inn yn dafarn bentref cartrefol sy’n cynnig amrywiaeth gynhwysfawr o gwrw casgen, cwrw golau a gwin. Eisteddwch o flaen tân coed croesawgar yn ystod y gaeaf neu mwynhewch atgofion hapus yn yr ardd gwrw yn ystod yr haf.

Mae’r Bedlinog Inn yn lle i wneud atgofion. Mae’r fwydlen yn cynnwys y gorau o fwyd tafarn-gastro ynghyd â phrydau tafarn clasurol mewn lleoliad cyfoes sydd ag awyrgylch tafarn draddodiadol. Drwy gydol y flwyddyn, bydd rhywbeth blasus iawn ar y fwydlen i gwblhau eich diwrnod.

O ran llety, mae’r Bedlinog Inn heb ei ail. Ar ôl cyrraedd, bydd y staff cyfeillgar a pharod eu cymwynas yn gwneud eu gorau i sicrhau profiad gwych i chi yn eu llety gwely a brecwast moethus.

Essential information

Address
Address
High St, Bedlinog, Treharris
CF46 6TG
Contact Name
Contact
Ian Davies
Email
Email Address
info@bedlinog-inn.co.uk
Phone
Phone
01443 710996 or 07944 411824
CTA Member

You may also be interested in: