The Rock Inn & Restaurant

Tafarn wledig hynod sy’n rhoi sylw gofalus iawn i fanylder. Agorodd y dafarn hanesyddol hon yn wreiddiol yn 1808 a saif yng ngwyrddni Cwm Sirhywi yng Nghoed Duon. Mae’r perchnogion Paul a Jennifer Taylor, cyn-enillwyr Tafarn Genedlaethol y Flwyddyn cwmni Enterprise Inns, yn cynnig croeso cynnes ac unigryw’r Cymoedd yn nhafarn y Rock.

Mae’r llety gwely a brecwast yn cynnwys pum ystafell wely ddwbl en suite, pob un wedi’i chynllunio’n unigol i safon uchel iawn gyda dodrefn o ansawdd eithriadol a chysur cartref oddi cartref.

Mae tafarn y Rock yn cynnig bar cain gyda dewis gwych o gyrfau go iawn, detholiad o winoedd a diodydd ysgafn hen ffasiwn sy’n denu’r llygad wrth ichi nesáu. Mae bwydlenni cinio canol dydd a gyda’r bwyd ffres gan fwyaf a ddaw o ffynonellau lleol lle bo modd, gan ddarparu ar gyfer pobl sy’n galw amser cinio ar eu taith, yn ogystal â phobl mae’n well ganddynt fwyta’n fwy hamddenol.

Essential information

Address
Address
Tredegar Road, Blackwood
NP12 1DD
Contact Name
Contact
Jennifer Taylor
Phone
Phone
01495 223441
CTA Member

You may also be interested in: