Fusion Spa at Bryn Meadows Golf, Hotel & Spa

Mae gan Westy Golff a Sba Bryn Meadows gyfleusterau hamdden a sba helaeth y gall preswylwyr, aelodau ac ymwelwyr eu defnyddio.

Anghofiwch am bwysau bywyd bob dydd ac ymlaciwch yn Fusion Spa & Wellness, sba moethus Bryn Meadows.

Mae’r tîm, sy’n defnyddio’r casgliad gorau o gynhyrchion gan y brand blaenllaw, Elemis, yn cynnig amrywiaeth eang o driniaethau sba traddodiadol ac unigryw, sy’n berffaith ar gyfer diwrnod neu wyliau byr yn y sba. Mae ganddo bedair ystafell driniaeth, gan gynnwys un ystafell driniaeth ddeuol, yn ogystal â Siambr Fwd Rasul.

Gallwch fynd i’r pwll dan do cynnes, ymdrochi yn ein hydrosba a jacuzzi, ymlacio a phrofi buddiannau thermol ein hystafelloedd sawna, stêm ac aromatherapi neu wneud ymarfer corff yn ein campfa os hoffech wneud rhywbeth ychydig yn fwy egnïol.

Gwobrau
Enillodd Fusion Spa yn Bryn Meadows wobr ‘Sba’r Flwyddyn’ yng Ngwobrau Gwallt a Harddwch Cymru 2017, ac mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr yn 2018.

Cyrhaeddodd y tîm y rhestr fer hefyd ar gyfer yr un wobr, ‘Sba’r Flwyddyn’, yn 2016 a gwobr ‘Iechyd, Harddwch a Llesiant’ yng Ngwobrau Twf Busnes 2017.

Essential information

Address
Address
Maesycwmmer, Nr Ystrad Mynach, Caerphilly
NP12 2RB
Phone
Phone
01495 225590
Website
Social Media
Facebook Page
CTA Member

You may also be interested in: