Mountain Biking at Cwmcarn Forest

Ydych chi’n breuddwydio am feicio ar hyd llwybr sengl perffaith? Am droi a throelli drwy goetir hyfryd; y golau’n pefrio drwy’r coed, tra bod eich coesau’n llosgi ac yn gofyn i chi roi’r gorau iddi, cyn dod i lawr y llwybr yn llyfn ac yn ddidrafferth?

Wedi’i enwi ar ôl y baedd gwyllt arswydus yn y Mabinogi, mae’r llwybr yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb – darnau heriol serth, llwybrau sy’n plymio i lawr ac adrannau technegol anodd. Ceir 15.5 cilomedr o lwybr sengl bron sy’n mynd trwy dirwedd a oedd unwaith wedi’i chreithio gan waith cloddio glo, ond sydd bellach yn un o drysorau cudd Cymru. Yn goron ar y cyfan – gallwch feicio ar hyd y llwybrau.

Llwybr disgynnol y Mynydd

Nid yw llwybr disgynnol y Mynydd yn addas i’r gwangalon. Llawer o ysgafellau, ychydig o lwybrau sy’n codi ac yn disgyn, llwybrau dwbl, twnnel, grisiau carreg, y bont, neidiau lle mae angen newid cyfeiriad, ac yna mae naid dros y disgyniad i’r chwarel os ydych chi’n ddigon dewr, a’r rhan ar y gwaelod lle gallwch chi fynd fel cath i gythraul. Mae’r ffaith y cafodd ei gynllunio gan Phil Saxena o ‘Full Contact Racing’ a’i adeiladu gan feicwyr lleol, gan gynnwys Rowan Sorrell, yn golygu mai hwn yw un o’r llwybrau disgynnol gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r cwrs wedi’i rannu yn ddwy redfa – y rhedfa 2-ysgafn a’r rhedfa 3-ysgafn – sy’n uno tua thraean o’r ffordd i lawr y mynydd. Y rhedfa 2-ysgafn yw’r hawsaf o’r ddau, felly, dyna’r lle gorau i ddechrau os mai dyma’ch tro cyntaf chi. Mae’r rhedfa 3-ysgafn i’r beicwyr mwy profiadol gan ei fod ychydig yn fwy serth mewn mannau. Mae modd rholio ar y cwrs cyfan, cyn belled â’ch bod chi’n ofalus. Mae yna rai neidiau mawr iawn yng Nghwmcarn, ond gallwch chi fynd o’u cwmpas nhw’n hawdd os ydych chi’n dymuno. Fodd bynnag, os ydych chi’n hoffi hedfan, yna byddwch chi’n cael amser gwych.  Gradd y Llwybr – Eithafol Parc Beicio

Llwybr y Twrch

Mae hwn yn llwybr gwych o’r ansawdd uchaf sydd ddim yn addas i’r gwangalon. Mae’r llwybr hwn yn drac sengl pwrpasol am bron ei hyd cyfan. Mae’n amrywio o rannau agored sy’n llifo i rannau sy’n dynn, technegol a gyda llawer o wreiddiau, ac mae modd defnyddio’r trac ym mhob tywydd. Mewn mannau, mae’r llwybr yn mynd yn agos at ymylon llethrau coediog serth iawn, gan eich gorfodi chi i ganolbwyntio. Mewn mannau eraill, mae’n ysgubo ar hyd tir agored gan roi cyfle i chi werthfawrogi golygfeydd hynod Môr Hafren a’r bryniau o’ch cwmpas chi. Gradd y Llwybr – Anodd (Coch)

Llwybr Cafall – llwybr traws gwlad 14 cilomedr

Mae’r llwybr hwn, sy’n codi i uchder o fwy na 400 metr, yn rhoi ymdeimlad o antur i chi.

Mae dringfeydd caled a rhannau trac sengl tyn yn cyfuno ag ambell i ddisgyniad serth a thechnegol gwych (cadwch lygad am rannau’r Hideout, Rocky Valley, Heartbreak Ridge a Powder House), sydd oll yn cynnig teimlad ‘naturiol’ gwych ar gyfer beicwyr profiadol.  Byddwch chi’n cael eich gwobrwyo gyda thaith feicio anhygoel a golygfeydd godidog o’r ardal gyfagos ar lwybr sy’n mynd â chi i rai o ardaloedd mwyaf anghysbell Coedwig Cwmcarn. Bydd angen i chi fod yn hunangynhaliol a disgwyl newidiadau i’r tywydd ar hyd y llwybr ‘gradd goch’ anodd a heriol hwn. Gradd y Llwybr – Anodd (Coch)

Llwybr y Bytheiad

Mae modd cael mynediad i lwybr gradd ddu ‘Y Bytheiad’ naill ai drwy lwybr Cafall XC neu’r gwasanaeth cludo ar y safle.  Mae’n llwybr traws gwlad llinol sy’n opsiynol ond mae angen sgiliau ac offer beicio o ansawdd uwch na’r llwybr XC gradd Goch.

Mae dringfeydd anodd ac adrannau cul o lwybr sengl a adeiladwyd â llaw yn uno â disgyniadau serth a thechnegol gwych (gwyliwch am adrannau Hideout, Rocky Valley, Heartbreak Ridge a Powder House), sy’n cynnig ymdeimlad ‘naturiol’ gwych i feicwyr mwy profiadol.

Os ydych yn chwilio am siop feiciau gyfeillgar, mae PS Cycles wedi’i leoli yn Cwmcarn Forest Drive.

Mae’n llogi beiciau traws gwlad/cynnal hyfforddiant beicio mynydd i grwpiau o 1 i 12 person. https://www.pscycles.co.uk/

Ar gyfer gwasanaeth codi beiciau mynydd Cwmdown, ewch i’r wefan: https://www.cwmdown.co.uk/

 

Essential information

Address
Address
Cwmcarn, Nr Crosskeys
N11 7FA
Contact Name
Contact
Mike Owen
Phone
Phone
01495 272001
Website
Website
Website
Website
Social Media
Facebook Page
Charges
Charges
Free to ride the trails. Charge for uplift service and car parking.
CTA Member

You may also be interested in: