The Meadows – Farm Village Retreat

Mae ‘Playworks: The Meadows’ yn encilfa fferm-bentref ar gyrion Caerffili, ar y ffin â Chaerdydd.

Rydyn ni’n encilfa fferm-bentref gyda gwahaniaeth. Rydyn ni’n cynnig lle i bartïon, grwpiau a sesiynau i aelodau. Mae’r fferm-bentref, ‘The Meadows’, yn sefyll ar dros 21 o erwau, gyda chyfleoedd i ryngweithio ag anifeiliaid a hefyd gyfleoedd i gael profiad naturiol yng nghefn gwlad lle gallwn ni gysylltu ag ysgolion coedwig a’r cwricwlwm cenedlaethol cyfredol.

Ymhlith ein hanifeiliaid mae ceffylau, geifr pigmi, moch micro, defaid bychain, gwartheg bychain, alpacaod, ieir, hwyaid, peunod, gwyddau, cwningod, moch cwta, asynnod a cheirw.

Rydyn ni’n cynnig sesiynau sy’n cynnwys ymweliadau gan ysgolion a grwpiau, partïon ar gyfer achlysuron arbennig, a boreau aelodau. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 029 2086 4780 neu enquiries@playworks-childcare.co.uk. Rydyn ni hefyd ar Facebook – am ragor o wybodaeth ac i gael gwybod y diweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod, hoffwch ein tudalen

Essential information

Address
Address
The Meadows, Gypsy Lane, Caerphilly
CF15 7UN
Phone
Phone
02920 864780
Website
Social Media
Facebook
CTA Member

You may also be interested in: