Alice in Wonderland yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon

Am docynnau, ewch yma!

Mae Immersion Theatre, cwmni sydd wedi cael ei nomineiddio am sawl gwobr, a’r tîm tu ôl i lwyddiant ysgubol y llynedd “The Jungle Book” – yn dod a’u hegni nodweddiadol i’w sioe gerdd deuluol fwyaf, mwyaf doniol a mwyaf ysblennydd hyd yn hyn: Alice in Wonderland!

Dilynwch Alice a’r Gwningen Wen wrth iddyn nhw gychwyn ar antur liwgar, wyneb i waered a chwrdd â llu o gymeriadau rhyfedd gan gynnwys Tweedle Dum a Tweedle Dee, Brenhines y Calonnau, y Gath Hapus ac wrth gwrs, yr Hetiwr Hurt!

Mae plant ac oedolion fel ei gilydd yn cael eu gwahodd i ymuno yn yr hwyl o weld y stori glasurol hon yn dod yn fyw mewn sioe sy’n llawn comedi, cerddoriaeth, rhyngweithio gyda’r gynulleidfa, a hwyl i’r teulu cyfan! Peidiwch â cholli allan!

Essential information

Address
Address
Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Stryd Fawr, Coed Duon
NP12 1BB
Contact Name
Contact
Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Email
Email Address
BMI@caerphilly.gov.uk
Phone
Phone
01495227206

You may also be interested in: