Bydd y llawr sglefrio iâ ar agor bob dydd rhwng 10am a 7pm, a bydd yn gweithredu slotiau hanner awr drwy’r dydd. P’un a ydych yn barod i wibio ar draws yr iâ neu os oes angen ychydig o gymorth arnoch gan ein pengwiniaid iâ bach, mae sglefrio iâ’n cynnig llawer o hwyl i bawb ei mwynhau.
GWYBODAETH BWYSIG
Oedran isaf – 3 oed
RHAID i blant 3 i 7 oed fod yng nghwmni oedolyn (rhaid i’r oedolyn fod dros 18) ar yr iâ
Mynediad £3 y person
Ni allwch archebu ymlaen llaw felly anogir i ymwelwyr gyrraedd yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.
Gyda chefnogaeth Morrisons. Noddir gan Gyngor Tref Bargod.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Ganolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011 neu anfon e-bost at digwyddiadau@caerffili.gov.uk