Basil & Rusty’s Ice Cream

Dewch i’n siop hufen iâ wobrwyol a chael hufen iâ sydd ymhlith y gorau yn y Deyrnas Unedig.

A ninnau’n fusnes teuluol hirsefydlog, mae ein rysáit hufen iâ wedi ennill y teitl ‘Pencampwr y Pencampwyr’ yn y Gwobrau Hufen Iâ Cenedlaethol deirgwaith. Yn 2019, barnwyd mai hon oedd siop bwdinau orau Cymru, ac roedd ymhlith y goreuon yng ngwobrau caffis Cymru a gafodd eu cynnal gan dîm gwobrau Bwyd Cymru.

Dewch i ymlacio yn yr ardd neu’r stablau, gan fwynhau golygfeydd godidog o gefn gwlad wrth i’r plant chwarae yn y lle chwarae poblogaidd. Mae croeso i gŵn, parcio am ddim a llwybrau cerdded hyfryd gerllaw. Dyma’r lle perffaith i gwrdd â ffrindiau dros goffi ‘gourmet’ a theisen gartref, yn ogystal â dewis o hufen iâ.

Mae ein hufen iâ, sy’n cael ei wneud â llaw ac ar raddfa fechan ar ein fferm ym Machen, ar gael ar ffurf dewis o flasau traddodiadol, ac weithiau flasau arbennig. Rydyn ni’n defnyddio cynhwysion cyfan o ansawdd, sy’n cefnogi ffermwyr Prydain, cyflenwyr lleol a busnesau teuluol eraill.

Rydyn ni’n mwynhau bod yn greadigol yn y siop, ac yn defnyddio cynhwysion o ansawdd o ffynonellau penodol i wneud amrywiaeth eang o syndis, ysgytlaethau a wafflau i’w bwyta yn y siop neu oddi ar y safle.

Essential information

Address
Address
Gelli Wastad Farm, Newport Road, Machen, Caerphilly
CF83 8JE
Email
Email Address
basilandrustys@gmail.com
Phone
Phone
07947 210387
Website
Social Media
Facebook
CTA Member

You may also be interested in: