Beth am ddianc rhag diflastod y gaeaf ac ymuno â ni wrth i ni ddechrau ein rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer 2023! Yn rhan o’n digwyddiad cyntaf ni eleni, byddwn ni’n mynd i ganol tref Coed Duon ar gyfer ei Ffair y Gwanwyn gyntaf erioed!
Fferm anwesu, reidiau ffair, gweithdai i blant, theatr stryd, adar ysglyfaethus… Dyma rai o’r pethau a fydd yn Ffair y Gwanwyn, Coed Duon, ar ddydd Sadwrn 4 Mawrth! Gyda llwyth o stondinau bwyd a chrefft, ffair bleser, a digonedd o weithgareddau a pherfformiadau stryd, bydd rhywbeth at ddant pawb! Felly, dewch draw i gael diwrnod llawn hwyl gyda’r teulu a chael cyfle i wneud dangos cefnogaeth i fusnesau lleol!
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn High Street, NP12 1AH, lle bydd y ffyrdd ar gau.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.
Afal y Graig Cider & Perry | Alcohol – Seidr, applesecco, rosecco a pearsecco |
Ally’s Confectionary | Losin traddodiadol, losin gwreiddiol a chandi-fflos |
Baker Bears | Teisennau cwpan, lolipops teisen, cacennau hambwrdd, pastai cwci, jareidiau o deisen, cwcis |
Bath Soft Cheese Company Ltd | Caws crefftwrol organig |
Bryn Meadows: Golff, Gwesty a Sba | Hyrwyddo’r cwmni |
Caerphilly Station Chiropractic Centre & Blackwood Chiropractic Centre | Hyrwyddo gofal ceiropracteg |
Gofalu am Gaerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | Gwybodaeth a chyngor |
Tîm Adfywio Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | Eitemau a chyngor am ddim ar gymorth cyflogaeth |
Maethu Caerffili, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili | Dosbarthu taflenni sy’n hyrwyddo maethu |
Chris Noonan | Gemwaith ac ategolion wedi’u gwneud â llaw |
Crystal Crysalis | Crisialau go iawn ym mhob ffurf, er enghraifft tyrau, cerrig wedi’u treiglo, cerfiadau, sfferau, cylchoedd allweddi, modrwyau ac ati, yn ogystal â ffyn arogldarth a phecynnau anrhegion. |
Dazza’s Soft Whippy | Consesiwn – Hufen iâ, lolis iâ, slwtsh, diodydd oer, losin a siocled |
Dinky Donuts | Consesiwn – Dinky Donuts ffres, diodydd poeth ac oer, conau eira |
Doughnutters – Caerffili | Toesenni, a llenwadau a phâst siocled wedi’u gwneud â llaw |
Eleri’s Welshcakes | Pice ar y maen cartref mewn amrywiaeth o flasau traddodiadol a chyfoes. |
Falconry UK | Arddangosfa lonydd o adar ysglyfaethus. |
Fine Food Lands Ltd | Olifau, melysyn Twrci, baclafa, cnau |
Gem Trading | Hetiau bwced blewog, bagiau, cylchoedd allweddi arbennig, eitemau mympwyol a hwylbethau |
H & K Catering | Losin wedi’u pecynnu, candi-fflos, popgorn |
Hancox’s Pies | Nwyddau wedi’u pobi |
Jan Baker Wellbeing & Holistic Health | Dewis persawrus – canhwyllau, toddion cwyr, olewau gwasgarwyr a gemwaith |
Lee’s Ices | Consesiwn – Hufen iâ, lolis iâ, slwtsh, diodydd |
Little Grandma’s Kitchen | Siytni, ceuled, cyffeithiau, marmalêd, mwstard, pâst a chracers |
Love Books with Lovelock | Llyfrau plant Usborne, pecynnau gweithgareddau ac anrhegion sy’n cynnwys llyfr Usborne, er enghraifft, bag lliwio, llyfr, eitemau crefft a phaentio crochenwaith mewn bag. Hefyd bydd pecynnau anrhegion sy’n cynnwys llyfr Usborne ac eitemau synhwyraidd i dwdlod a babanod |
Mallows Bottling Limited | Alcohol – Dewis Charlie Parry, dewis Rummers, dewis Mallows |
My Little Pest | Ategolion gwallt a gemwaith i blant – breichledau, mwclis, modrwyau ac ati |
GIG Cymru Caerdydd a’r Fro | Gwybodaeth |
Olive Tree Treats | Brigadeiros (pelen siocled felys o Frasil) |
Pasithea | Lluniau cerrig bychain, calonnau llechi, celf acrylig, olewon naws a llosgwyr olew, conau/ffyn arogldarth, llosgwyr arogldarth, bomiau bath a chanhwyllau wedi’u persawru. |
Pembrokeshire Chilli Farm | Cynnyrch tsili o bob math |
Rae’s Grace Cakes | Cacennau cwpan, cacennau mawr fesul tafell, cacannau hambwrdd, cwcis |
Sarah Claire Crafts | Anrhegion ffabrig, penwisgoedd a chylchoedd allweddi |
Sian’s Emporium | Iechyd a harddwch – sebon a bomiau bath, crisialau, ffosilau, awtomata pren a chynnyrch i anifeiliaid anwes |
Signore Twister | Consesiwn – bwyd poeth – tatws troellog a diodydd meddal |
Snap Fitess Blackwood | |
Spirit of Wales Distillery | Alcohol – Poteli o wirodydd, fodca, jin a rỳm |
Stagecoach Bus | Gwybodaeth am fysiau |
The Slime Factory | Pecynnau gwneud sleim ac ategolion, gweithdai gwneud sleim |
Tracey’s Funky Faces | Peintiwr wynebau |
Truth in a Trailer | Dim byd ar werth; rydyn ni’n bwriadu dosbarthu deunydd darllen Cristnogol am ddim a chyfryngau eraill; bagiau tote am ddim gydag adnod o’r Beibl |
Williams Brothers Cider | Alcohol – Seidr, perai a sudd afal |
Amser | Perfformiwr |
Drwy’r dydd | Adar ysglyfaethus |
Drwy’r dydd | Ffair hwyl |
Drwy’r dydd | Gweithdai crefft |
Drwy’r dydd | Stondinau |
Drwy’r dydd | Cadair gynfas anferth |
Drwy’r dydd | Fferm anwesu |
Drwy’r dydd | Gemau enfawr |
Drwy’r dydd | Air Tatts |
Drwy’r dydd | Paentio wynebau |
10.30am | Chwaraewr rygbi ar goesau bachau (1) |
10.45am | Y Pwyllgor Croesawu (1) |
11.00am | Beic cerddoriaeth hudol (1) |
11.15am | Artist swigod (1) |
11.30am | Ieir y gwanwyn (1) |
12.00pm | Chwaraewr rygbi ar goesau bachau (2) |
12.15pm | Y Pwyllgor Croesawu (2) |
12.30pm – ger Wilkinson | Sioe stryd cylchyn hwla a gweithdai ‘rhoi cynnig arni’ (1) |
12.45pm | Artist swigod (2) |
1.00pm | Ieir y gwanwyn (2) |
1.15pm | Beic cerddoriaeth hudol (2) |
1.30pm | Y Pwyllgor Croesawu (3) |
1.30pm – ger Wilkinson | Studio 54 Blackwood |
1.45pm | Chwaraewr rygbi ar goesau bachau (3) |
2.00pm | Artist swigod (3) |
2.30pm | Ieir y gwanwyn (3) |
2.45pm | Y Pwyllgor Croesawu (4) |
3.00pm – ger Wilkinson | Sioe stryd cylchyn hwla a gweithdai ‘rhoi cynnig arni’ (2) |
3.15pm | Chwaraewr rygbi ar goesau bachau (4) |
3.30pm | Beic cerddoriaeth hudol (3) |
3.45pm | Artist swigod (4) |
4.00pm | Y Pwyllgor Croesawu (5) |
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.
#CroesoCaerffili #DewisLleol #UKSPF