Ffair y Gaeaf, Coed Duon

November 28, 9:00am - 2020-11-28 17:00:00

Dewch draw i Ffair y Gaeaf, Coed Duon, ddydd Sadwrn 28 Tachwedd i brofi hwyl a chyffro’r Nadolig!

P’un a ydych yn dymuno prynu anrheg Nadolig gynnar i chi eich hun neu’n chwilio am anrheg unigryw ar gyfer rhywun arbennig, gallwch grwydro o gwmpas detholiad bendigedig o stondinau bwyd a chrefft, yn ogystal â’r ystod wych o siopau annibynnol a brandiau’r stryd fawr, sy’n rhoi’r cyfle i chi ddechrau eich siopa Nadolig.

Bydd digonedd o adloniant i’r teulu cyfan gyda detholiad eang o reidiau ffair yn ogystal â chymeriadau a sioeau Nadoligaidd ar y stryd. Mae Ffair y Gaeaf, Coed Duon, yn cael ei chefnogi gan Gyngor Tref Coed Duon.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 029 2088 0011 neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk. Eisiau arddangos yn y digwyddiad hwn? Os hoffech chi wneud cais am stondin neu lain, cliciwch ar y ddolen isod – mae’n arwain i dudalen sy’n cynnwys ffurflenni cais i fasnachwyr ar gyfer ein holl ddigwyddiadau. www.visitcaerphilly.com/cy/event-trader-application-forms

 

Essential information

Address
Address
Blackwood High Street, Blackwood Town Centre
NP12 2BN
Contact Name
Phone
The Visitor Centre - Caerphilly
Email
Email Address
events@caerphilly.gov.uk
Phone
Phone
029 2088 0011
Charges
Charges
FREE Event
CTA Member

You may also be interested in: