Mae’r cwrs parcdir hwn, sydd wedi’i amgylchynu gan goed ac a sefydlwyd yn 1973, yn cynnig her wahanol o bob ti. Yn wahanol i lawer o gyrsiau mewndirol, mae pob twll yn wahanol yn Bryn Meadows, diolch i gynllunwyr y cwrs gwreiddiol, Brian Mayo a’r chwaraewr golff proffesiynol cyntaf Craig Defoy.
Mae llawer iawn o bwyslais ar gywirdeb a rheolaeth dactegol yn hytrach na grym corfforol. Mae cwrs Bryn Meadows yn arbennig o addas ar gyfer grwpiau cymysg ac yn cynnig her ddiddorol i golffwyr o bob gallu a handicap.
Mae cwrs pencampwriaeth Bryn Meadows yn gwrs golff 71 par sy’n mesur 6,021 llath. Mae’n cynnig her wahanol o bob ti a grîn, sy’n golygu bod cywirdeb yn bwysig. Y ddau dwll nodedig yw twll 13, sy’n 3 par ac yn mesur 227 llath dros ddŵr, a’r ail dwll, sy’n 5 par ac yn mesur 557 llath lle mae eich trydydd trawiad dros ddŵr gydag ardal waharddedig i’r dde.
Mae croeso i ddechreuwyr a’r rhai sydd am wella ddefnyddio Cwrs Academi First Swing, sy’n gwrs 9 twll ac sy’n ddelfrydol i bobl o bob oedran. Mae’r efelychydd golff diweddaraf ar gael hefyd, sy’n ddelfrydol er mwyn rhoi dadansoddiadau manylach neu gymorth ystadegol i golffwyr, ond mae hefyd yn llawer o hwyl i’r rhai nad ydynt yn chwarae golff.
Gwobrau
Mae’r tîm wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘Gwesty Golff y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Golff y Byd 2017. Cyrhaeddodd Bryn Meadows y rownd derfynol ar gyfer gwobrau ‘Clwb y Flwyddyn’ a ‘Chlwb Iau’r Flwyddyn’ yn 2016 ar ôl cael ei ddewis gan Undeb Golff Cymru, a chafodd ei gydnabod hefyd fel un o Ganolfannau Rhagoriaeth Undeb Golff Cymru.
Ym mis Mai 2016, Academi First Swing, sef y golffwyr iau, oedd Pencampwyr Golff Stryd Cymru a Phencampwyr Golff Stryd Cenedlaethol y DU ddechrau mis Mehefin am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae’r golffwyr hefyd wedi gallu ymfalchïo yn y ffaith mai Winners Bar & Golf Supplies yw’r ‘Tŷ Clwb Gorau yng Nghymru’ yn ôl cylchgrawn Top Golfer, a’r pedwerydd yn y DU, a’i fod hefyd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer gwobr ‘Bar Gorau’ yng Ngwobrau Twf Busnes 2017.