Golff, Gwesty a Sba Bryn Meadows

Croeso i westy hamdden moethus 4 seren annibynnol unigryw sydd dan berchnogaeth deuluol, a saif mewn 100 erw o dir dôl ac ynghudd yng nghymoedd syfrdanol de-ddwyrain Cymru, ger Caerffili.

Os ydych yn aros at ddibenion busnes neu bleser, bydd yr ystafelloedd gwely moethus a’u golygfeydd panoramig dros y maes golff tawel a’r wlad gyfagos yn eich galluogi i deimlo’n gartrefol ac i ymlacio’n llwyr.

Mae’r ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n gain gyda chelfi, dodrefn meddal a baddonau a phennau sinciau marmor o’r Eidal, i’ch galluogi i ymlacio’n llwyr. I gael noson dda o gwsg, ewch i’r gwely maint brenin â’i gynfasau meddal cotwm pur a’i gwiltiau moethus. Er mwyn ail-ddeffro’ch synhwyrau, camwch i’r gawod bwerus i deimlo wedi’ch adfywio a’ch bywiogi.

Enwebwyd Bryn Meadows am wobr ‘Gwesty’r Flwyddyn’ yn seremoni gyntaf gwobrau lletygarwch Cymru ym mis Tachwedd 2016. Enillodd Mr Gavyn Bolton, y rheolwr cyffredinol, wobr ‘Rheolwr Cyffredinol Gwesty Gorau’ yn y seremoni honno.

Essential information

Address
Address
Maesycwmmer, Nr Ystrad Mynach, Caerphilly
NP12 2RB
Phone
Phone
01495 225590
Website
Social Media
Facebook Page
CTA Member

You may also be interested in: