The Castle Inn B&B

Tafarn Gymreig groesawgar a thraddodiadol mewn coedwig drawiadol.

Mae’r Castle Inn, sydd wedi’i lleoli ar garreg drws Fforest Cwmcarn, yn cynnwys llety gwely a brecwast yn ogystal â llety hunanarlwyo, sy’n berffaith ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Mae’r llety gwely a brecwast yn y dafarn, lle mae dwy ystafell wely â lle cysgu i hyd at chwe unigolyn. Mae lletywyr yn rhannu ystafell ymolchi fawr sydd â bath cornel moethus, cawod ar wahân ac uned ymolchi, yn ogystal â chegin/ardal fwyta gyflawn â phopty, hob, oergell a microdon. Darperir brecwast cyfandirol, ac mae croeso i letywyr helpu eu hunain i de/coffi yn ôl yr angen.

Y tu ôl i’r dafarn mae dau lety hunanarlwyo newydd. Mae gan y fflatiau cynllun agored le cysgu i hyd at dri unigolyn, ac maent yn cynnwys cegin gyflawn ac ystafell wlyb.

Essential information

Address
Address
Cwmcarn
NP11 7DU
Contact Name
Contact
Helen & Tim
Phone
Phone
01495 272877
CTA Member

You may also be interested in: