Dyluniwch arddangosfa ffenestr Nadoligaidd ar gyfer canol tref Caerffili!
Gwahoddir plant 4-11 oed i ddylunio golygfa Nadoligaidd liwgar sy’n cynnwys canol tref Caerffili mewn rhyw ffordd.
Bydd gwaith un enillydd lwcus yn cael ei droi yn arddangosfa ffenestr Nadolig yn Y Banc yng nghanol tref Caerffili!
Ysgrifennwch eich enw, oedran, cod post, cyfeiriad e-bost cyswllt a rhif ffôn ar gefn eich gwaith, a rhowch eich gwaith i Lyfrgell Caerffili rhwng dydd Gwener 15 Tachwedd a dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024.
Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych yn derbyn y gall y gwaith celf gael ei gyhoeddi a’i ddefnyddio fel arall.
I gael gwybodaeth am sut rydyn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth, gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cystadlaethau a Rafflau Mawr ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.