Llongyfarchiadau i Veg of Evans a gafodd eu coroni’n ddiweddar yn enillwyr Cystadleuaeth Gwisgo Ffenestr Nadolig Ystrad Mynach ar gyfer 2024!
Llwyddodd Veg of Evans i frwydro yn erbyn cystadleuaeth galed gan nifer o gystadleuwyr eraill, ond gwnaeth yr amser, yr ymdrech a lefel y manylder a oedd wedi mynd i’w harddangosfa Nadoligaidd argraff arbennig ar y beirniaid, gan gynnwys set trên symudol a Siôn Corn yn dringo!
Mae Veg of Evans yn fusnes teuluol, sy’n cael ei arwain gan drigolion lleol Ystrad Mynach Susanne Evans a’i gŵr Simon, gyda chefnogaeth eu merch Chloe, mam Susanne, Jane a thad Simon, Howard. Mae’r busnes wedi bod yn rhedeg ers dros 10 mlynedd ac wedi symud o Jones Arcade i safle newydd yn 16 Heol Penallta ym mis Tachwedd 2023. Mae’r siop yn gwerthu ffrwythau a llysiau ffres, llaeth, bara becws, wyau fferm, ac amrywiaeth o jamiau, marmaledau a siytni. Mae Veg of Evans yn cynnig dosbarthiad am ddim i drigolion mewn trefi cyfagos ac mae hefyd yn cyflenwi bwytai, caffis, tafarndai ac ysgolion lleol.
Pan gafodd wybod bod Veg of Evans wedi’i ddewis yn enillydd Ystrad Mynach, dywedodd Susanne “Diolch yn fawr, rydw i wrth fy modd gyda fy ffenest, rydw i’n ei wneud bob blwyddyn ac rydw i bob amser yn mwynhau ei wneud e. Hoffwn i hefyd ddiolch i’n cwsmeriaid am eu holl gefnogaeth.”
Ychwanegodd Susanne a Simon hefyd at eu cabinet tlws ar ddechrau mis Rhagfyr trwy ennill y categori “Cyfleuster Lleol Gorau” yng Ngwobrau Busnes Gorau Cymru dros Dde-ddwyrain Cymru! Llongyfarchiadau ar eich cyflawniad haeddiannol!
Gallwch gysylltu â Veg of Evans ar Facebook neu drwy ffonio’r siop ar 01443 858140.