The Gatehouse
Yn gaffi gyda’r dydd, a bistro gyda’r nos, mae The Gatehouse yn cynnig bwyd anhygoel, diodydd, ac awyrgylch i bawb ei fwynhau. Yng nghanol tref Caerffili, dyma’r lleoliad perffaith i gwrdd â ffrindiau ar noson allan neu ar ôl diwrnod o siopa ac archwilio’r Fwrdeistref Sirol. Mae The Gatehouse yn eich croesawu chi drwy’r drysau, ger mynediad Canolfan Siopa Cwrt y Castell, Canol Tref Caerffili. Yn agor am 9am bron bob dydd, mae The Gatehouse yn gweini bwyd blasus o fore gwyn tan nos. O brydau brecwast a brecinio poblogaidd i brydau ysgafn, pasteiod blasus, byrgyrs, a phrydau cyw iâr – mae gan The Gatehouse rywbeth i bawb ei fwynhau. Gyda’r nos, daw’r bistro yn fyw gyda bwyd a diodydd anhygoel wedi’u creu gan dîm o staff profiadol a chymwys. Bob dydd Gwener, mae’r bistro yn gartref i gerddoriaeth byw sy’n cynnwys rhaglen wych o artistiaid medrus.
Mae’r tîm yn The Gatehouse yn ehangu o hyd, gyda’r rheolwyr Lee Edwards a Nick Harland ar flaen y gad. Yn awyddus i annog eu staff i fwynhau lletygarwch a chychwyn ar yrfa, mae Lee yn treulio amser yn hyfforddi a datblygu sgiliau pob aelod o’r tîm.
Gyda’r busnes yn tyfu o hyd, yr ychwanegiad diweddaraf i The Gatehouse yw The Lounge Bar. Yn dilyn gwaith adewyddu diweddar, mae llawr uchaf The Gatehouse wedi ei drawsnewid yn ardal fwyta steilus, y lle perffaith i ymgynnull gyda ffrindiau, teulu neu hyd yn oed gynnal parti!
I weld bwydlenni, gwirio argaeledd, ac am ragor o wybodaeth, ewch i wefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol The Gatehouse.
www.facebook.com/gatehousecaerphilly21 a www.facebook.com/gatehouselounge