Cystadleuaeth Celf y Nadolig Bargod 2025

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Llyfrgell Bargod, CF81 8QR

Dyluniwch arddangosfa ffenestr Nadoligaidd ar gyfer canol tref Bargod!

Gwahoddir plant 4-11 oed i ddylunio golygfa Nadoligaidd liwgar sy’n cynnwys canol tref Bargod mewn rhyw ffordd.

Bydd gwaith celf Nadolig un enillydd lwcus yn cael ei harddangos mewn ffenestr siop lleol. HEFYD, bydd yr enillydd yn cael basged anrhegion Nadoligaidd y mae Cyngor Tref Bargod wedi bod mor garedig â’i rhoi yn wobr.

Ysgrifennwch eich enw, oedran, cod post, cyfeiriad e-bost cyswllt a rhif ffôn ar gefn eich gwaith, a rhowch eich gwaith i Lyfrgell Bargod rhwng dydd Gwener 14 Tachwedd a dydd Llun 1 Rhagfyr 2025.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Rheoli Canol Trefi.

Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych yn derbyn y gall y gwaith celf gael ei gyhoeddi a’i ddefnyddio fel arall.

I gael gwybodaeth am sut rydyn ni’n defnyddio’ch gwybodaeth, gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cystadlaethau a Rafflau Mawr ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Gwybodaeth bellach

Lleoliad