Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!
Mynediad am ddim! Dim angen cadw lle ymlaen llaw!
Wrth i ni agosáu at dymor y Nadolig, beth am fwynhau rhywfaint o amser hwyliog i’r teulu AM DDIM a dod â’r plant i greu llusern Nadoligaidd arbennig ar gyfer Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yng nghanol tref Caerffili ddydd Gwener 21 Tachwedd.
Mae’r gweithdai AM DDIM yn cael eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’u hariannu gan Gyngor Tref Caerffili. Bydd y gweithdai’n brofiad braf i’r hen a’r ifanc! Gall plant ddangos eu creadigrwydd nhw a bydd oedolion yn cael cyfle i gael hwyl a chwarae rhan hefyd!
Boed yn llusern deuluol neu’n rhywbeth ychydig yn fwy mentrus, bydd digon o bapur crefft a glud i bawb gael creu campwaith!
Bydd y gweithdai llusernau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal rhwng 10am a 5pm yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn ddydd Sadwrn 8 Tachwedd, dydd Sul 9 Tachwedd, dydd Sadwrn 15 Tachwedd a dydd Sul 16 Tachwedd, yn barod ar gyfer yr orymdaith ddydd Gwener 21 Tachwedd am 6pm yn ystod Ffair Nadoligaidd Fach.
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i ariannu gan Gyngor Tref Caerffili.
CYSTADLEUAETH

Rhannwch eich llusern â ni am gyfle i ennill TOCYN RHODD GWERTH £50 i’w wario yn Ffair a Marchnad Crefft Crafty Legs!
Sganiwch y cod QR a lanlwytho’ch llun i’r tab Trafod ar y digwyddiad Facebook!
Telerau ac Amodau
- Rhaid casglu’r wobr a’i defnyddio yn Ffair a Marchnad Crefft Crafty Legs yn ystod Ffair Nadoligaidd Fach, ddydd Gwener 21 Tachwedd, neu Marchnad Nadolig Caerffili, dydd Sadwrn 29 Tachwedd.
- Rhaid cyflwyno ceisiadau i’r tab Trafod ar ddigwyddiad Facebook Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni er mwyn iddynt gael eu cyfrif. Nid yw postiadau wedi’u tagio yn cyfrif gan nad ydynt bob amser yn weladwy oherwydd gosodiadau preifatrwydd unigol.
- Mae mynediad am ddim ac yn gyfyngedig i 1 y pen
- Mae ceisiadau’n cau am hanner nos ddydd Mawrth 18 Tachwedd 2025. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap, ei gyhoeddi a’i gysylltu drwy sylw/neges Facebook erbyn dydd Iau 20 Tachwedd.
- Byddwch yn ymwybodol o sylwadau/cyfrifon sgam. Ni fyddwn byth yn gofyn i ymgeiswyr am fanylion banc neu dalu.
- Efallai y gofynnir i enillwyr gymryd rhan mewn cyhoeddusrwydd sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth, gan gynnwys ffotograffau a/neu gyhoeddiad yr enillwyr ar gyfryngau cymdeithasol.