Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!
I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.
Gwisgwch yn gynnes a pharatoi ar gyfer tymor y Nadolig wrth i Farchnad Nadolig ddod i Ystrad Mynach ar ddydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025!
Bydd Marchnad Nadolig yn Ystrad Mynach eleni yn dod â fflach y Nadolig i ganol y dref ddydd Sadwrn 15 Tachwedd, a bydd Cyngor Cymuned Gelli-gaer yn cynnal Groto Siôn Corn, felly peidiwch ag anghofio eich rhestr Nadolig chi!
Bydd y ffair yn rhoi cyfle i chi ddechrau ar eich siopa Nadolig yn gynnar, gyda detholiad arbennig o tua 40 stondin bwyd a chrefft, a fydd wedi’u gosod ar hyd y dref ac yn gwerthu anrhegion hardd, o addurniadau Nadolig a gemwaith i fwyd pob blasus a danteithion Nadoligaidd traddodiadol.
Bydd ychydig o reidiau ffair i blant bach ar hyd a lled canol y dref, yn ogystal â gwledd o gymeriadau Nadoligaidd yn crwydro safle’r digwyddiad i ddiddanu’r teulu cyfan. Bydd yna hefyd lwyfan cymunedol gyda pherfformiadau Nadoligaidd gan ysgolion, corau, bandiau a chantorion lleol yn helpu cael pawb yn ysbryd y Nadolig.
Yn ogystal â’r stondinau a’r adloniant, mae gan y dref ystod wych o siopau canol tref annibynnol. Cydiwch yn eich bagiau siopa chi a dewch draw i ymuno yn yr hwyl Nadoligaidd rhwng 9am a 5pm!
Bydd y ffair hefyd yn cynnal seremoni Cynnau Goleuadau Nadolig hudolus Cyngor Cymuned Gelli-gaer am 5pm.
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM!
Am ragor o wybodaeth, e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i gynorthwyo gan Gyngor Cymuned Gelli-gaer.
Parcio a Theithio
Parcio
Bydd mannau parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn:
- Yr Ysgol Lewis, CF82 7WW (am ddim)
- Maes Parcio Oakfield Street, CF82 7WX (talu ac arddangos)
- Tesco, CF82 7DP (am ddim am 2 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Tesco yn unig)
- Lidl, CF82 8AA (am ddim am 2 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Aldi yn unig)
Sicrhewch eich bod yn gwirio’r arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Gwasanaethau trenau
Mae Gorsaf Drenau Ystrad Mynach o fewn pellter cerdded i safle’r digwyddiad ac mae’n gwasanaethu teithwyr sy’n teithio i’r lleoliadau canlynol ac ohonyn nhw:
• Bargod (bob oddeutu 10-20 munud)
• Ynys y Barri (bob oddeutu 10-30 munud)
• Caerdydd (bob oddeutu 10-20 munud)
• Rhymni (bob oddeutu 30-40 munud)
Gwiriwch wefan Trafnidiaeth Cymru am amserlenni trenau.
❗️Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.
Gwasanaethau bysiau
Am newidiadau i lwybrau bysiau ar ddiwrnod y digwyddiad, gweler yr Hysbysiad i Breswylwyr a Manwerthwyr ar waelod y dudalen hon.
Rheseli Beic
Gellir dod o hyd i raciau beic yn:
- Llyfrgell Ystrad Mynach, CF82 7BB
- Gwaelod Heol Bedwlwyn, CF82 7AD
- Gorsaf Drenau Ystrad Mynach, CF82 7BQ
- Tesco, CF82 7DP
Rhaglen Adloniant

Dyma rhai o’r adloniant a gweithgareddau ym Marchnad Nadolig Ystrad Mynach:
- Ogof Siôn Corn Cyngor Cymuned Gelligaer (mynediad £1)
- Seremoni Cynnau Goleuadau Nadolig gyda Cyngor Cymuned Gelligaer
- Dros 35 o stondinau bwyd, diod, crefft a wybodaeth
- Perfformwyr prif lwyfan a ddawns
- Adar ysglyfaethus gyda Falconry UK
- Paentio wynebau gyda Glitter Girls
- Gweithdai crefft i blant am ddim
- Reidiau ffair hwyl
- Perfformwyr theatr stryd, yn cynnwys Elvish Pressies, Toy Soldier a’r Goblynnod Nadolig
- Gweithgareddau yn Llyfrgell Ystrad Mynach
Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant yn lawn!
Rhaglen y Phrif Lwyfan

Fe welwch chi amrywiaeth o gerddorion, corau, ysgolion ac academïau dawns lleol yn camu i’r llwyfan yn ystod Marchnad Nadolig Ystrad Mynach 2025!
Dyma pwy fydd yn perfformio drwy gydol y dydd! A chofiwch am y seremoni hudolus ar gyfer cynnau’r goleuadau Nadolig am 5pm!
| Amser | Perfformwyr |
| 10:00 – 10:30 | Corws Cymunedol Caerffili |
| 10:40 – 11:10 | Ysgol Gynradd Ystrad Mynach |
| 11:20 – 11:50 | Côr Merched Cefn Hengoed |
| 13:00 – 13:30 | Ysgol Ddawns a Chelfyddydau Perfformio DYT |
| 13:40 – 14:10 | Côr Meibion Ystrad Mynach |
| 14:20 – 14:50 | Delicious Dee |
| 15:00 – 15:30 | The Melody Makers |
| 15:40 – 16:10 | Côr Superchoir |
| 16:10 – 17:00 | Ruby Kay |
| 17:00 | Seremoni Cynnau Goleuadau Nadolig Cyngor Cymunedol Gelli-gaer |
Rhestr Stondinau

Bydd dros 35 o fasnachwyr sy’n gwerthu bwyd blasus a chrefftau unigryw, ynghyd ag ambell stondin wybodaeth, wedi’u lleoli ledled canol y dref. Mwynhewch gacennau blasus a chael blas o ddiod neu ddwy gan y gwerthwyr gwirodydd, cwrw a seidr. Codwch anrhegion crefft unigryw i deulu a ffrindiau neu beth am rywbeth i chi’ch hun!?
Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau lawn!
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau Gaeaf 2025 Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili


Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.
