Parti Traeth Coed Duon 2025

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  High Street, Blackwood NP12 1AH
  01443 866390   events@caerphilly.gov.uk

Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Tref Coed Duon yn falch o gyhoeddi bod Parti Traeth Coed Duon yn dod i’r dref! Ddydd Sadwrn 28 Mehefin, bydd y Stryd Fawr, Coed Duon, NP12 1AH, yn cael ei thrawsnewid yn barti traeth trefol gyda digonedd o dywod, cadeiriau cynfas, a bwcedi a rhawiau i ddiddanu’r teulu cyfan. Bydd nifer fawr o reidiau ffair yn dod â bywyd i un pen y Stryd Fawr, a bydd stondinau, atyniadau a thraeth anferth yn y pen arall! Bydd Cyngor Tref Coed Duon hefyd yn trefnu prif lwyfan gyda rhaglen adloniant lawn drwy’r dydd, a fydd yn cynnwys cantorion, bandiau a dawnswyr lleol.

Bydd canol tref Coed Duon yn ferw o brysurdeb, gan roi hwb i nifer yr ymwelwyr â’r manwerthwyr a lleoliadau lletygarwch lleol, felly, cofiwch roi’r dyddiad yn y dyddiadur!

Cyngor Tref Coed Duon sy’n ariannu’r digwyddiad, a Thîm Digwyddiadau Caerffili sy’n ei drefnu.


Parcio a Thrafnidiaeth

Cliciwch neu daro ar y llun isod i weld fersiwn sgrin lawn o fap parcio cyhoeddus Parti Traeth Coed Duon.

Parcio

Mae mannau parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • Maes Parcio’r Stryd Fawr, NP12 1AH (talu ac arddangos)
  • Thorncombe Road 2, NP12 1AW (talu ac arddangos)
  • Thorncome Road 3, NP12 1AL (talu ac arddangos)
  • Canolfan Siopa Coed Duon, NP12 1DG (talu ac arddangos)
  • Woodbine Road, NP12 1AE (talu ac arddangos)
  • Wesley Road, NP12 1PP (talu ac arddangos)

❗️ Mae parcio am ddim ar gael ym Mharc Manwerthu Coed Duon; fodd bynnag, mae’r maes parcio hwn wedi’i ddynodi ar gyfer cwsmeriaid y parc manwerthu a gallwch chi ond yn aros am uchafswm o 2 awr.

❗️ Mae gan bob un o’r meysydd parcio uchod gilfachau parcio i bobl anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

Rheseli beiciau

Bydd rheseli beiciau ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • 3 gyferbyn â Maxime Cinema ar y Stryd Fawr (NP12 1AH)
  • 3 yng Ngorsaf Fysiau Coed Duon (NP12 1DG)
  • 1 ym Maes Parcio’r Stryd Fawr (NP12 1AH)
  • 5 ar Hall Street (NP12 1AD)

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae bysiau yng Ngorsaf Fysiau Coed Duon yn teithio i, ac yn dod yn ôl o Abertyleri, Bargod, Caerdydd, Cwmbrân, Casnewydd, Pontypridd, Tredegar, Ystrad Mynach ac eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Goed Duon ac yn ôl, ewch i wefan Traveline Cymru.


Rhaglen Adloniant

Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Rhestr Stondinau

Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau’r Haf Cyngor Caerffili 2025


Gwybodaeth bellach

Cyswllt

CCBC Events Team

Taliadau

FREE

Lleoliad