Bargoed Winter Fair

November 23, 9:00am - 2019-11-23 17:00:00

Bydd Bargod yn dod yn fyw ddydd Sadwrn 23 Tachwedd wrth groesawu marchnad Nadoligaidd bach. Er mwyn dod â Bargod yn fyw bydd stondinau, adloniant a reidiau ffair Nadoligaidd ar gael i drigolion lleol eu mwynhau.

Bydd rhan o ganol y dref, Sgwâr Hanbury a Plaza Lowry yn ferw o brysurdeb ar gyfer yr hen a’r ifanc o 9am I 5pm. Bydd detholiad o stondinau bwyd a chrefft yn rhoi’r cyfle i chi dechrau’ch siopa Nadolig wrth fwynhau awyrgylch Nadoligaidd braf.

Bydd gweithgareddau’r penwythnos hefyd yn cynnwys Llawr Sglefrio Iâ Bargod, ym maes parcio dan ddaear Morrisons. Yn dilyn galw mawr, bydd y llawr sglefrio iâ yn dychwelyd i Fargod o ddydd Mercher 20 Tachwedd i ddydd Sul 24 Tachwedd â chost o £3 y person.

Mae Bargod hefyd yn cynnig ystod fendigedig o siopau annibynnol a brandiau’r Stryd Fawr gan roi cyfle i chi ddechrau eich siopa Nadolig. Profwch dref fechan gyda llawer i’w gynnig wrth i Fargod ddod yn fyw gyda reidiau ffair, theatr stryd a gweithgareddau i blant.

Bydd Eglwys y Santes Gwladys yn croesawu marchnad dan do gyda stondinau, caffi dros dro, paentio wynebau a gweithgareddau i blant o 10am tan 4pm ar ddiwrnod Ffair y Gaeaf.

Cadwch lygad allan am ddigwyddiadau a gweithgareddau arall a allai ddigwydd a chyd-ddigwydd â Ffair y Gaeaf!

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Ganolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011 neu anfon e-bost at digwyddiadau@caerffili.gov.uk

Essential information

Address
Address
Bargoed High Street
CF81 8QZ
Contact Name
Contact
The Visitor Centre - Caerphilly
Email
Email Address
events@caerphilly.gov.uk
Phone
Phone
029 2088 0011
Website
Social Media
Facebook
Charges
Charges
FREE Event

Downloads

Taflen Ddigwyddiadau >

Gwybodaeth a Chau Ffyrdd yn Ystod Digwyddiadau’r Nadolig >

Disgrifiadau o'r Stondinau >

RHAGLEN ADLONIANT >

CTA Member

You may also be interested in: