Grŵp cyfeillgar o grefftwyr sy’n gwerthu eitemau wedi’u gwneud â llaw ar drydydd dydd Sadwrn bob mis yn Lowry Plaza a Hanbury Square.
Mae’r farchnad grefftau hon, sy’n cael ei chynnal drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys criw brwdfrydig o grefftwyr lleol sy’n gwerthu amrywiaeth o fwyd, diod ac eitemau crefft wedi’u gwneud â llaw.
Dilynwch Crafty Legs Events ar Facebook i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ac er mwyn cael gwybod pa stondinwyr fydd yn bresennol!