Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.
Mae’r gwanwyn eisoes wedi cyrraedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ac rydyn ni’n parhau i gadw pethau’n mynd yn dda gyda Ffair Fai, Bargod, ar Ddydd Sadwrn 3 Mai!
Gydag amrywiaeth o stondinau yn llawn busnesau bach anhygoel, adloniant cyffrous a reidiau ffair ffantastig, mae Ffair Fai, Bargod, yn addo rhoi hwb mawr i Fargod!
Dewch draw am ddiwrnod llawn hwyl a sbri, a chyfle i gefnogi’r dref, y stryd fawr a busnesau lleol!
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.
Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol!
Ariennir y digwyddiad hwn ar y cyd gan Gyngor Tref Bargod a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae parcio cyhoeddus am ddim ar gael yn y meysydd parcio canlynol:
Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Mae Gorsaf Drenau Bargod a Gorsaf Fysiau Bargod wedi’u lleoli’n agos at ben y Stryd Fawr o safle’r digwyddiad.
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Fargoed ac oddi yno, ewch i wefan Traveline Cymru neu Trainline.
Gellir dod o hyd i raciau beiciau yn yr ardaloedd canlynol o Ganol Tref Bargod:
Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Mae Bargod yn Dref Smart!
Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair Fai, Bargod, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.