Caffi’r Ffynnon – Capel y Bedyddwyr, Argoed

Mae Caffi’r Ffynnon wedi’i leoli yn adeilad hanesyddol Capel y Bedyddwyr, Argoed, yng nghanol rhyfeddod Cwm Sirhywi.

Ac yntau’n sefyll wrth ymyl llwybr beicio’r cwm (Llwybr 467), mae Caffi’r Ffynnon yn lle bendigedig i orffwys wrth deithio ar droed, ar gefn beic neu mewn car. Mae’r caffi hwn, sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, yn gweini teisennau cartref blasus, te a choffi, ac mae’n gyfle gwych i fwynhau’r capel Cymreig hanesyddol hwn, a’i holl swyn.

Mae’r caffi ar agor ar ddydd Mercher a dydd Iau, rhwng 10am a 4pm. Galwch heibio, felly, a mwynhau croeso cynnes Cymreig gan y gwirfoddolwyr – rydyn ni’n siŵr y byddan nhw’n rhoi cipolwg i chi ar dreftadaeth a hanes yr ardal.

Mae croeso i grwpiau, ac mae modd darparu te prynhawn a chawl cartref ar gyfer grwpiau drwy gysylltu â staff y caffi ymlaen llaw.

Essential information

Address
Address
Capel Argoed, High Street, Blackwood
NP12 0HQ
Contact Name
Contact
Valerie Morrill
Website
Social Media
Facebook
CTA Member

You may also be interested in: