Mae’r rhandy wedi’i ddodrefnu’n dda ac ar ddau lawr. Mae’n uned hunan-ddarpar sydd â’r holl bethau angenrheidiol i’w gwneud yn encil cysurus lle gallwch ymlacio. Ar y llawr gwaelod agored ceir ystafell fyw, ystafell fwyta a chegin mewn un. I fyny’r grisiau agored ar y llawr uchaf mae ystafell wely a chyfleuster en suite.
Saif y rhandy uwchben Rhisga, gyda golygfeydd da dros y cwm. Mae o fewn gwaith 2 funud o gerdded i Gangen Crymlyn (Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog), 5 munud i’r orsaf rheilffordd (llinell Caerdydd i Lynebwy), 5 i 10 munud i Rhisga a Phont-y-meistr. Mae llawer o lwybrau cerdded ar gael o’r rhandy, ynghyd â nifer fawr o atyniadau twristiaid o fewn pellter byr.
Estynnir croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda drwy drefniant. Cysylltwch â ni i drafod ymhellach.
“Perl o le. Byddwn yn rhannu’r gyfrinach â’n holl ffrindiau”. Rob a Meena o Lundain.