Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt 2025

November 21, 12:00am - November 22, 12:00am

Ymunwch yn yr hwyl gyda gorymdaith Nadoligaidd wych yng nghanol tref Caerffili, gydag arddangosfa tân gwyllt ysblennydd yn yr awyr dros Gastell Caerffili i ddilyn ar ddydd Gwener 21 Tachwedd.

Bydd yr orymdaith arbennig hon, sy’n cael ei threfnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i hariannu gan Gyngor Tref Caerffili, yn dechrau yn Ysgol Martin Sant, cyn teithio i lawr Cardiff Road a gorffen ym Maes Parcio’r Twyn!

I wneud llusern ar gyfer yr orymdaith, beth am ymweld â’r Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni AM DDIM! Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal rhwng 10am a 5pm yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn ddydd Sadwrn 8, dydd Sul 9, dydd Sadwrn 15 a dydd Sul 16 Tachwedd.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i ariannu gan Gyngor Tref Caerffili.


Map yr Orymdaith

Bydd Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yn cychwyn yn Ysgol Sant Martin, cyn teithio i lawr Heol Caerdydd a Stryd y Castell, gan droi wrth y senotaff i Stryd y Farchnad ac yn ôl i faes parcio’r Twyn.


Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei ariannu gan Gyngor Tref Caerffili a’i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Essential information

Address
Address
Canol Tref Caerffili
CF83 1JL
Contact Name
Contact
Tîm Digwyddiadau CBSC
Phone
Phone
01443 866390
Charges
Charges
AM DDIM
Pet Friendly
Pet Friendly

You may also be interested in: