Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni 2023

Mynediad am ddim! Dim angen cadw lle ymlaen llaw!

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol, yma.

Wrth i ni agosáu at dymor y Nadolig, beth am fwynhau rhywfaint o amser hwyliog i’r teulu AM DDIM a dod â’r plant i greu llusern Nadoligaidd arbennig ar gyfer Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yng nghanol tref Caerffili ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr.

Mae’r gweithdai AM DDIM yn cael eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’u hariannu gan Gyngor Tref Caerffili. Bydd y gweithdai’n brofiad braf i’r hen a’r ifanc! Gall plant ddangos eu creadigrwydd nhw a bydd oedolion yn cael cyfle i gael hwyl a chwarae rhan hefyd!

Boed yn llusern deuluol neu’n rhywbeth ychydig yn fwy mentrus, bydd digon o bapur crefft a glud i bawb gael creu campwaith!

Bydd y gweithdai llusernau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal rhwng 10am a 5pm yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn ddydd Sadwrn 19 Tachwedd, dydd Sul 20 Tachwedd, dydd Sadwrn 26 Tachwedd a dydd Sul 27 Tachwedd, yn barod ar gyfer yr orymdaith ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr am 6.30pm.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i ariannu gan Gyngor Tref Caerffili.


Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

Essential information

Address
Address
Canolfan Gymunedol y Twyn, Caerffili
CF83 1JL
Contact Name
Contact
Tîm Digwyddiadau CBSC
Phone
Phone
029 2088 0011
Website
Social Media
Facebook
Instagram
Twitter
Charges
Charges
AM DDIM

You may also be interested in: