Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili 2024

April 27, 9:00am - April 27, 5:00pm

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol!

Mae Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili, wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghanol tref Caerffili ers nifer o flynyddoedd ac mae’n cael ei chynnal rhwng 9am a 5pm ddydd Sadwrn 27 Ebrill!

Gall ymwelwyr grwydro drwy’r stondinau niferus o ben Cardiff Road i Faes Parcio’r Twyn, gan fwynhau golygfa ysblennydd Castell Caerffili godidog o’r 13eg ganrif sydd wedi’i leoli wrth galon y digwyddiad!

Mae canol y dref yn cael ei drawsnewid yn farchnad sy’n llawn dop o ddanteithion coginiol; mae’n baradwys i’r rhai sy’n dwlu ar fwyd gyda nifer fawr o stondinau bwyd a diod i demtio blasbwyntiau ymwelwyr gydag aroglau blasus a chynnyrch sy’n tynnu dŵr o’r dannedd.

Mae rhaglen o arddangosiadau coginio wedi’i chynllunio drwy gydol y dydd ac mae’r digwyddiad yn ymuno â’r marchnadoedd misol sefydledig sy’n cael eu cynnal yng nghanol y dref. Mae Marchnad y Crefftwyr yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Marchnad Fwyd a Chrefft, Canolfan Siopa Cwrt y Castell, a ffair grefftau ger y Senotaff gan Crafty Legs yn dod â hyd yn oed mwy o amrywiaeth!

Bydd diddanwyr stryd yn crwydro’r ŵyl drwy’r dydd i ddiddanu pawb a bydd detholiad bach o reidiau ffair i blant i ddiddanu’r rhai bach!

Mae gan ganol y dref ddewis hyfryd o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau’r stryd fawr. Mae Caerffili yn cynnig amrywiaeth eang o leoliadau bwyta allan ledled canol y dref, gan gynnwys caffis, bariau a bwytai, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol chi.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Cardiff Road, Twyn Road, Castle Street (tua’r gogledd yn unig) a maes parcio’r Twyn, lle bydd y ffyrdd ar gau rhwng 9pm nos Wener 28 Ebrill a 9pm nos Sadwrn 29 Ebrill.

I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffoniwch 01443 866390.

Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl, gan gynnwys y rhaglen arddangosiadau coginio, y rhaglen adloniant, stondinau a fydd yn bresennol a’r ffyrdd a fydd ar gau, ewch i wefan Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili.


Map Parcio


Rhaglen Adloniant

Bydd rhaglen adloniant lawn yn cael ei chyhoeddi yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Rhestr Stondinau

Bydd rhestr lawn o stondinau yn cael ei chyhoeddi yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau’r Gwanwyn Cyngor Caerffili 2024

Gweler yr hysbysiadau isod am wybodaeth bwysig ynghylch cau ffyrdd, systemau traffig a mynediad i breswylwyr/manwerthwyr yn ystod ein Digwyddiadau’r Gwanwyn 2024.

Cliciwch neu tapiwch ar y delweddau i gael fersiwn sgrin lawn o’r Hysbysiad Preswylwyr a Manwerthwyr.


Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

#CroesoCaerffili #DewisLleol #UKSPF

 

 

 


 

Essential information

Address
Address
Canol Tref Caerffili
CF83 1JL
Contact Name
Contact
Tîm Digwyddiadau CBSC
Website
Social Media
Facebook
Instagram

You may also be interested in: