Save £’s with the Llancaiach Family Ticket

Mae croeso cynnes yn aros amdanoch …

Mae ymwelwyr yn mynd yn ôl i 1645 ac yn cael eu croesawu i’r Faenor gan weision yng ngwisg y cyfnod sy’n dilyn y ffordd draddodiadol, ddomestig ac amaethyddol o fyw yng ngefn gwlad. Cynlluniwyd y Faenor i gael ei hamddiffyn yn hawdd yn ystod teyrnasiad terfysglyd brenhinoedd a breninesau’r Tuduriaid, ac mae’n un o’r enghreifftiau gorau o faenor led-amddiffynedig yng Nghymru heddiw. (Rhaid talu i fynd i mewn i’r Maenordy)

Gellir mynd i mewn i’r Ganolfan Ymwelwyr a’r gerddi am ddim. Mae’n cynnwys arddangosfa sy’n dangos hanes y Faenor, lolfa goffi sy’n gweini cinio a byrbrydau a siop lle mae amrywiaeth eang o anrhegion, llyfrau, gemwaith a gwybodaeth i dwristiaid. Mae’r gerddi bach o’r 17eg ganrif yn cynnwys gardd addurnol, llwybr cerdded gyda gwrychod wedi’u plygu, perllannau a gerddi perlysiau a llysiau lle mae mathau o blanhigion a choed o 1645 neu gynharach.

Prisiau’r Maenordy:

Teulu: £25 (dau oedolyn a thri phlentyn)

Oedolion: £8.50

Plant a chonsesiynau: £6.95

Plant dan 5 oed: AM DDIM

Grŵp o oedolion: £6 (20+ o bobl)

Grwpiau o blant ysgol: £6 (plant dan 16 oed)

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01443 412248.

Essential information

Website
Social Media
Facebook Page
CTA Member