Llawr Sglefrolio Bargod – Dydd Mercher 7 Rhagfyr – Dydd Sul 11 Rhagfyr 2022 – 10am – 7pm bob dydd

Gwisgwch eich esgidiau sglefrio’r mis Rhagfyr hwn a dewch i weld y Llawr Sglefrolio cyntaf erioed yng nghanol tref Bargod!

Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Tref Bargod ar y cyd, ar gael rhwng 10am a 7pm bob dydd.

  • Bydd y llawr sglefrio ym maes parcio tanddaearol Morrisons.
  • Pris sglefrolio yw £3 am 30 munud ac mae’n cynnwys llogi esgidiau sglefrolio.
  • Mae modd i grwpiau ac ysgolion gadw eu lle os ydyn nhw’n talu ymlaen llaw rhwng dydd Mercher a dydd Gwener – e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk os ydych chi’n dymuno cadw lle ymlaen llaw. Dim ond grwpiau â 30-50 o bolb sy’n gallu cadw lleoedd ymlaen llaw. Y ffi yw £2.70 y pen, gan fod gostyngiad o 10% ar gyfer archebion grŵp.
  • Gall pawb arall ddod ar y diwrnod (fodd bynnag, cyrhaeddwch 30 munud cyn y slot amser rydych chi eisiau sglefrio ynddo i osgoi cael eich siomi).

Amseroedd sglefrolio:
Sesiwn 1: 10:00am – 10:30am
Sesiwn 2: 11:00am – 11:30am
Sesiwn 3: 12:00pm – 12:30pm
Sesiwn 4: 13:00pm – 13:30pm
Sesiwn 5: 14:00pm – 14:30pm
Sesiwn 6: 15:00pm – 15:30pm
Sesiwn 7: 16:00pm – 16:30pm
Sesiwn 8: 17:00pm – 17:30pm
Sesiwn 9: 18:00pm – 18:30pm

Dydd Gwener 9fed YN UNIG:
Sesiwn 10 – Awr Dawel: 19:00pm – 19:30pm
(Awr dawel arbennig heb gerddoriaeth na goleuadau disgo)

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn cael ei ariannu ar y cyd ganddyn nhw a Chyngor Tref Bargod.

Essential information

Contact Name
Contact
Events Team
Email
Email Address
events@caerphilly.gov.uk
Phone
Phone
029 2088 0011

You may also be interested in: