Llwyn Iago Farm Guest House

Croeso yn y bryniau. Wedi’i leoli ym mhen draw Cwm Darran mae Gwesty Fferm Llwyn Iago o’r 15fed ganrif. Gydag ystafelloedd chwaethus, golygfeydd panoramig trawiadol o gefn gwlad a chroeso Cymreig braf, gallwch fod yn hollol sicr y cewch wyliau cyfforddus.

Mae Llwyn Iago yn rhoi’r cyfle i ymwelwyr ymlacio mewn lleoliad cartrefol yn y bryniau, gyda brecwast a the hufen blasus a’r cyfle i ‘gwtsho lan’ o flaen y tân coed yn yr ystafell eistedd i westeion. Mae’r gwesty, a oedd unwaith yn ffermdy traddodiadol, yn lle perffaith i ddechrau archwilio, gan ei fod hanner ffordd rhwng Castell Caerffili a Bannau Brycheiniog a dim ond dwy filltir o’r orsaf drenau lle mae trenau’n mynd i ganol dinas Caerdydd yn rheolaidd.

Mae’r llety, sydd wedi derbyn 4* gan Croeso Cymru, yn cynnwys tair ystafell wely en suite.

Essential information

Address
Address
Fochriw, Bargoed
CF81 9JR
CTA Member

You may also be interested in: