Dewch draw i ganol tref Caerffili a mwynhau’r farchnad olaf ond un mewn cyfres o farchnadoedd bwyd a chrefft y gaeaf sy’n cael eu cynnal ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd tua 50 o stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant ac adloniant theatr stryd gwych, felly, os ydych chi’n chwilio am ychydig o oriau allan gyda’r teulu, beth am ddod draw i Gaerffili ac ymuno yn yr hwyl?
Rhowch ddiwrnod iddi a threfnu ymweld â Chastell Caerffili ac archwilio popeth sydd gan ganol y dref hon i’w gynnig.
Mae gan ganol y dref ddewis hyfryd o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau’r stryd fawr. Mae Caerffili yn cynnig amrywiaeth eang o leoliadau bwyta allan ledled canol y dref, gan gynnwys caffis, bariau a bwytai, felly, #DewisLleol #DewisLleolyNadoligHwn a chefnogi canol eich tref leol.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Cardiff Road, Twyn Road, Castle Street (tua’r gogledd yn unig) a maes parcio’r Twyn, lle bydd y ffyrdd ar gau rhwng 9pm nos Wener 3 Rhagfyr a 9pm nos Sadwrn 4 Rhagfyr.
Os ydych chi’n ymweld â Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, cadwch at yr holl arwyddion a chanllawiau o amgylch safle’r digwyddiad.
Wrth ddod trwy brif fynedfeydd y safle, bydd hylif diheintio dwylo a masgiau wyneb ar gael.
Tra byddwch chi yn y digwyddiad, parchwch bobl eraill a chadw eich pellter i helpu diogelu pawb.
Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau’r digwyddiad mewn amgylchedd diogel.
Cofiwch – Os ydych chi’n teimlo’n sâl, peidiwch â dod draw.
Enw’r cwmni | Prif gynnyrch ar werth |
A Bit of a Pickle | Cyffeithiau crefftwrol cartref |
Afal y Graig Cider & Perry | Seidr, perai, applesecco |
Ally’s Confectionary | Losin, losin gwreiddiol, losin traddodiadol. |
Baker Bears | Cacennau cwpan, cacennau bach, lolipops cacen, cacennau tun, jariau cacen, peis cwci, bomiau siocled poeth, bisgedi rydych chi’n eu paentio eich hunan, bariau cwci, blondies, brownis, rocky road |
Barafundle | Straeon sain wedi’u personoli fel pecynnau rhodd a CDau i’w llawrlwytho, blodau sebon |
Beacons Creative Wales Ltd | Canhwyllau, sebonau a thanwyr tân |
Blair Lundie | Paentio ar bren a llechi wedi’u hadfer, addurniadau Nadolig pren, eitemau wedi’u gwnïo â llaw |
Bow Addict | Clipiau, bandiau, rhubanau a phelenni i’r gwallt |
Caerphilly Station Chiropractic Centre a Blackwood Chiropractic Centre | Hyrwyddo gofal ceiropracteg. |
Café Refresh | Bwyd poeth – Byrgyrs, cŵn poeth, rholiau cig eidion rhost |
Cardiff Distillery | Gwirodydd gin a setiau anrhegion |
Charles Taylor | Dodrefn i’r ardd |
Charlie B’s | Nwyddau i gŵn |
Chock Shop | Brownis siocled |
Chris Noonan | Gemwaith, ategolion, dalwyr breuddwydion, modrwyau allweddi, garlantau gwallt wedi’u gwneud â llaw. |
Clai | Clustlysau wedi’u gwneud o glai polymer, Mwclis, dysglau, addurniadau Nadolig |
Costco Wholesale Ltd | Aelodaeth Costco, arddangos samplau. |
Dinky Donuts | ‘Dinky Donuts’ ffres, diodydd poeth, conau eira, candi-fflos. |
Eden Stone Store | Ategolion gwallt crisial a gemwaith wedi’u lapio â gwifren, dalwyr breuddwydion wedi’u gwneud â llaw |
Good & Proper Brownies | Brownis wedi’u gwneud â llaw. |
Gwen Davies Art & Henna | Gwaith celf henna, cardiau cyfarch, llyfrau nodiadau, llyfrau lliwio, nwyddau ethnig. |
Holy Chonk | Cwcis |
House of Wax | Sebon, canhwyllau, bomiau baddon, lleithyddion, toddion cawod, sgwrfeydd wyneb, bomiau toiled, sebon jeli, cwcis baddon, bomiau golchi dillad, tabledi peiriant golchi llestri, tabledi golchi llestri |
Julie’s Scarves | Sgarffiau a chynheswyr gwddf. |
Little Grandma’s Kitchen | Siytni, ceuled, jam, marmalêd, mwstard, pecynnau rhodd |
Mallows Bottling Limited | Gwirodydd – gin, fodca, rỳm, bwrbon, coctels |
Meetini | Coctels alcoholig wedi’u pecynnu a gweini coctels di-alcohol ynghyd â gwin poeth sbeislyd i’w hyfed ar y safle |
Mrs Boss Wales | Nwyddau i’r cartref a rhoddion wedi’u hysgythru â laser, nwyddau i’r cartref a rhoddion wedi’u torri â system plasma CNC, cardiau wedi’u gwneud â llaw ac addurniadau Nadolig. |
Nuts About Cinnamon | Cnau sglein â sinamon (cnau daear, pecanau, almonau, cnau cashiw a chnau barfog) |
Ooh La La Patisserie | Macarŵns Ffrengig |
Pembrokeshire Chilli Farm | Cynhyrchion sy’n gysylltiedig â tsilis |
Popty Cara | Bara brith, pice ar y maen, torthau sinsir gludiog, cacennau seidr Cymreig, cacennau ffrwythau heb siwgr ychwanegol,cacennau lemwn feganaidd, ‘rocky road’, ‘tiffin’, brownis, fflapjacs feganaidd, marmalêd. |
Rebel Jones Designs | Anrhegion a nwyddau wedi’u darlunio. Deunydd ysgrifennu, ysgrifbinnau, cardiau, sticeri, papur lapio |
Samosaco | Sawsiau, picls a siytni Indiaidd |
Signore Twister | Tatws ar ffurf troell a diodydd ysgafn. |
Simply Christmas Ltd | Addurniadau Nadolig |
Sky’s The Limit | Pecynnau adeiladu crefftau coed |
Snowdonia Candles | Canhwyllau, toddion cwyr |
Spirit of Wales Distillery | Gwirodydd mewn poteli, fodca, gin a rỳm, siocled a nwyddau gyda logos cwmnïau brand h.y. ysgrifbinnau, gwydrau, troellwyr bysedd. |
Steve’s Engraving | Ysgythru â llaw, disgiau adnabod anifeiliaid anwes, beiros, clustdlysau, sgarffiau |
Taggie Limited | Dillad plant gan gynnwys dillad nos a chrysau-t |
The Fudge Foundry | Cyffug seiliedig ar siocled. |
Tudor Brewery | Cwrw go iawn, pecynnau rhodd o gwrw. |
Utility Warehouse – Natalie Curtis | Dim cynhyrchion, cyngor am gyfleustodau a raffl am ddim |
Welsh Valley Soapery | Sebon, siampŵ a bariau cyflyrydd wedi’u gwneud â llaw, cynhyrchion baddon naturiol |
Wigmores Bakery | Dewis o fara artisan, cacennau, bwyd sawrus a pizzas |
Williams Brothers Cider | Seidr poeth sbeislyd a seidr i fynd adref. |
Wood n Things | Torchau ffrwythau sych, garlantau, addurniadau coed, olewau Nadolig, robin Nadolig llechen. |
Rhaglen Adloniant
Amser | Perfformiwr | Cwmni |
10.00am | Alfie’r Coblyn ar gefn Rudolph (1) | Juggling Jim |
10.30am | Milwr Plwm ar Goesau Bachau (1) | Flying Colours |
11.00am | Tywysog a Thywysoges Iâ (1) | Flying Colours |
11.30am | Pwdin Nadolig ar Esgidiau Rholio (1) | Flying Colours |
12.00pm | Alfie’r Coblyn ar gefn Rudolph (2) | Juggling Jim |
12.15pm | Dyn mewn Anrheg Nadolig (1) | A 2 B Entertainment |
12.30pm | Milwr Plwm ar Goesau Bachau (2) | Flying Colours |
1.00pm | Tywysog a Thywysoges Iâ (2) | Flying Colours |
1.30pm | Alfie’r Coblyn ar gefn Rudolph (3) | Juggling Jim |
2.00pm | Pwdin Nadolig ar Esgidiau Rholio (2) | Flying Colours |
2.30pm | Milwr Plwm ar Goesau Bachau (3) | Flying Colours |
2.45pm | Dyn mewn Anrheg Nadolig (2) | A 2 B Entertainment |
3.00pm | Alfie’r Coblyn ar gefn Rudolph (4) | Juggling Jim |
3.15pm | Tywysog a Thywysoges Iâ (3) | Flying Colours |
3.30pm | Pwdin Nadolig ar Esgidiau Rholio (3) | Flying Colours |
4.00pm | Dyn mewn Anrheg Nadolig (3) | A 2 B Entertainment |