Dewch draw i ganol tref Coed Duon a mwynhau’r farchnad olaf mewn cyfres o farchnadoedd bwyd a chrefft y gaeaf sy’n cael eu cynnal ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd tua 25 o stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant ac adloniant theatr stryd gwych, felly, os ydych chi’n chwilio am ychydig o oriau allan gyda’r teulu, beth am ddod draw i dref Coed Duon ac ymuno yn yr hwyl?
Mae gan ganol y dref ddewis hyfryd o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau’r stryd fawr. Mae Coed Duon yn cynnig amrywiaeth eang o leoliadau bwyta allan ledled canol y dref, gan gynnwys caffis, bariau a bwytai, felly, #DewisLleol #DewisLleolyNadoligHwn a chefnogi canol eich tref leol.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn y Stryd Fawr, lle bydd y ffordd ar gau rhwng 9pm nos Wener 10 Rhagfyr a 9pm nos Sadwrn 11 Rhagfyr.
Os ydych chi’n ymweld â Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Coed Duon cadwch at yr holl arwyddion a chanllawiau o amgylch safle’r digwyddiad.
Wrth ddod trwy brif fynedfeydd y safle, bydd hylif diheintio dwylo a masgiau wyneb ar gael.
Tra byddwch chi yn y digwyddiad, parchwch bobl eraill a chadw eich pellter i helpu diogelu pawb.
Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau’r digwyddiad mewn amgylchedd diogel.
Cofiwch – Os ydych chi’n teimlo’n sâl, peidiwch â dod draw.
Enw’r cwmni | Prif gynnyrch ar werth |
Ally’s Confectionary | Losin, losin gwreiddiol, losin traddodiadol. |
Aroma Oils Limited | Nwyddau persawrus – llosgwyr olew, halwynau baddon, toddion cwyr, canhwyllau, dalwyr llwch, arogldarth, olewau, tryledwyr, stemars cawod. Tryledwyr i geir, setiau breichled i ddynion, tryledwyr gemwaith, blodau sebon, leininau toddion cwyr, cynhyrchion aromatherapi wedi’u cymysgu â llaw |
Baker Bears | Cacennau cwpan, cacennau bach, lolipops cacen, cacennau tun, jariau cacen, peis cwci, bomiau siocled poeth, bisgedi rydych chi’n eu paentio eich hunan, bariau cwci, blondies, brownis, rocky road |
Blair Lundie | Paentio ar bren a llechi wedi’u hadfer, addurniadau Nadolig pren, eitemau wedi’u gwnïo â llaw |
Bow Addict | Clipiau, bandiau, rhubanau a phelenni i’r gwallt |
Caerphilly Station Chiropractic Centre a Blackwood Chiropractic Centre | Hyrwyddo gofal ceiropracteg. |
Charles Taylor | Dodrefn i’r ardd. |
Charlie B’s | Nwyddau i gŵn. |
Chock Shop | Brownis siocled |
Costco Wholesale Ltd | Aelodaeth Costco, arddangos samplau. |
Court’s Craft Creations | Fframiau celf cerrig mân wedi’u gwneud â llaw |
Dinky Donuts | ‘Dinky Donuts’ ffres, diodydd poeth, conau eira, candi-fflos. |
Eleri’s Welshcakes | Pice ar y maen |
Gem Trading | Gemwaith a fasys Romani, lampau, addurniadau, anrhegion Nadolig |
House of Wax | Sebon, canhwyllau, bomiau baddon, lleithyddion, toddion cawod, sgwrfeydd wyneb, bomiau toiled, sebon jeli, cwcis baddon, bomiau golchi dillad, tabledi peiriant golchi llestri, tabledi golchi llestri |
Julie’s Scarves | Sgarffiau a chynheswyr gwddf |
Mallows Bottling Limited | Gwirodydd – gin, fodca, rỳm, bwrbon, coctels |
Mrs Boss Wales | Nwyddau i’r cartref a rhoddion wedi’u hysgythru â laser, nwyddau i’r cartref a rhoddion wedi’u torri â system plasma CNC, cardiau wedi’u gwneud â llaw ac addurniadau Nadolig. |
Spirit of Wales Distillery | Gwirodydd mewn poteli, fodca, gin a rỳm, siocled a nwyddau gyda logos cwmnïau brand h.y. ysgrifbinnau, gwydrau, troellwyr bysedd. |
Steve’s Engraving | Ysgythru â llaw, disgiau adnabod anifeiliaid anwes, ysgrifbinnau, clustdlysau, sgarffiau |
The Slime Factory | Pecynnau gwneud llysnafedd, ategolion a chynhwysion llysnafedd |
The Woodland Trust – Lisa Maddison / Jonathan McDonnell / Jessica Parker / Gill Morley | Codi ymwybyddiaeth, recriwtio aelodau a chasglu rhoodion cerdyn |
Tudor Brewery | Cwrw go iawn, pecynnau rhodd o gwrw. |
Utility Warehouse – Natalie Curtis | Dim cynhyrchion, cyngor am gyfleustodau a raffl am ddim |
Wigmores Bakery | Dewis o fara artisan, cacennau, bwyd sawrus a pizzas |
Rhaglen Adloniant
Amser | Perfformiwr | Cwmni |
10.00am | Tywysoges ar Goesau Bachau (1) | Flying Colours |
10.30am | Dau Ŵr Doeth (1) | Digging Holes Street Theatre |
11.00am | Milwr Plwm a Doli Glwt (1) | Flying Colours |
11.30am | Addurn ar Esgidiau Rholio (1) | Flying Colours |
12.00pm | All Presents and Correct (1) | Flying Colours |
12.15pm | Dau Ŵr Doeth (2) | Digging Holes Street Theatre |
12.30pm | Tywysoges ar Goesau Bachau (2) | Flying Colours |
1.00pm | Milwr Plwm a Doli Glwt (2) | Flying Colours |
1.15pm | All Presents and Correct (2) | Flying Colours |
1.30pm | Dau Ŵr Doeth (3) | Digging Holes Street Theatre |
2.00pm | Addurn ar Esgidiau Rholio (2) | Flying Colours |
2.30pm | Tywysoges ar Goesau Bachau (3) | Flying Colours |
2.45pm | Dau Ŵr Doeth (4) | Digging Holes Street Theatre |
3.00pm | All Presents and Correct (3) | Flying Colours |
3.15pm | Milwr Plwm a Doli Glwt (3) | Flying Colours |
3.30pm | Addurn ar Esgidiau Rholio (3) | Flying Colours |
4.00pm | Dau Ŵr Doeth (5) | Digging Holes Street Theatre |