Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach 2021 – WEDI’I CHANSLO

November 27, 9:00am - November 27, 5:00pm

Dydd Sadwrn 27 Tachwedd 2021

WEDI’I CHANSLO – Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach (Dydd Sadwrn 27 Tachwedd)
Yn anffodus, mae’r rhybudd tywydd melyn presennol ar gyfer gwyntoedd cryfion ddydd Sadwrn yn golygu mai’r unig ddewis yw canslo’r digwyddiad oherwydd pryderon am ddiogelwch.
Mae terfyn cyflymder gwynt uchaf yn berthnasol yn achos stondinau’r farchnad ac, yn ôl y rhagolygon, mae disgwyl iddo fesur ddwywaith hyn. Rydyn ni wedi penderfynu mor hwyr â phosibl ac wedi ystyried opsiynau eraill i fwrw ymlaen â’r digwyddiad, ond, er mawr ofid, bu’n rhaid i ni wneud penderfyniad terfynol.

Dewch draw i ganol tref Ystrad Mynach a mwynhau’r ail farchnad mewn cyfres o farchnadoedd bwyd a chrefft y gaeaf sy’n cael eu cynnal ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd tua 25 o stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant ac adloniant theatr stryd gwych, felly, os ydych chi’n chwilio am gwpl o oriau allan gyda’r teulu, beth am ddod draw i Ystrad Mynach ac ymuno yn yr hwyl?

Mae gan ganol y dref ddewis hyfryd o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau’r stryd fawr. Mae Ystrad Mynach yn cynnig amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol #DewisLleolyNadoligHwn a chefnogi canol eich tref leol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, lle bydd y ffyrdd ar gau rhwng 9pm nos Wener 26 Tachwedd a 9pm nos Sadwrn 27 Tachwedd.

Os ydych chi’n ymweld â Marchnad Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach, cadwch at yr holl arwyddion a chanllawiau o amgylch safle’r digwyddiad. Wrth ddod trwy brif fynedfeydd y safle, bydd hylif diheintio dwylo a masgiau wyneb ar gael. Tra byddwch chi yn y digwyddiad, parchwch bobl eraill a chadw eich pellter i helpu diogelu pawb. Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau’r digwyddiad mewn amgylchedd diogel. Cofiwch – Os ydych chi’n teimlo’n sâl, peidiwch â dod draw.

Enw’r cwmni Prif gynnyrch ar werth
Afal y Graig Cider & Perry Seidr, perai, applesecco – wedi’u pecynnu i’w hyfed oddi ar y safle
Ally’s Confectionary Losin, losin gwreiddiol, losin traddodiadol.
Aroma Oils Limited Nwyddau persawrus – llosgwyr olew, halwynau baddon, toddion cwyr, canhwyllau, dalwyr llwch, arogldarth, olewau, tryledwyr, stemars cawod, tryledwyr i geir, setiau breichled i ddynion, tryledwyr gemwaith, blodau sebon, leininau toddion cwyr, cynhyrchion aromatherapi wedi’u cymysgu â llaw
Baker Bears Nadolig 2021 – Cacennau cwpan, cacennau bach, lolipops cacen, cacennau tun, jariau cacen, peis cwci, bomiau siocled poeth, bisgedi rydych chi’n eu paentio eich hunan, bariau cwci, blondies, brownis, rocky road
Blair Lundie Paentio ar bren a llechi wedi’u hadfer. Addurniadau Nadolig mewn pren ac eitemau wedi’u gwnïo â llaw
Caerynys Shed Jewellery Gemwaith Arian
Charles Taylor Dodrefn i’r ardd.
Charlie B’s Nwyddau i gŵn.
Costco Wholesale Ltd Aelodaeth Costco, arddangos samplau
Dinky Donuts ‘Dinky Donuts’ ffres, diodydd poeth, conau eira, candi-fflos.
Eleri’s Welshcakes Pice ar y maen
Helens Homebakes Cacennau, pasteiod a rholiau selsig
Trefnydd Usborne Annibynnol – Karen Simmonds Llyfrau, jig-sos a chardiau fflach/snap i blant gan Usborne
Julie’s Scarves Sgarffiau a chynheswyr gwddf
Little Grandma’s Kitchen Siytni, ceuled, jam, marmalêd, mwstard, pecynnau rhodd
Mallows Bottling Limited Gwirodydd – gin, fodca, rỳm, bwrbon, coctels
Mrs Boss Wales Nwyddau i’r cartref a rhoddion wedi’u hysgythru â laser, nwyddau i’r cartref a rhoddion wedi’u torri â system plasma CNC, cardiau ac addurniadau Nadolig wedi’u gwneud â llaw..
Ooh La La Patisserie Macarŵns Ffrengig.
Pasithea Celf cerrig bychain wedi’u gwneud â llaw, olewon naws a llosgwyr olew, ffyn/conau arogldarth a blychau llwch, toddion cwyr, gemwaith, teganau / hwylbethau i blant
Pembrokeshire Chilli Farm Cynhyrchion sy’n gysylltiedig â tsilis.
Signore Twister Tatws ar ffurf troell a diodydd ysgafn.
Simply Christmas Ltd Addurniadau Nadolig
The Slime Factory Pecynnau gwneud llysnafedd, ategolion a chynhwysion llysnafedd
Tudor Brewery Cwrw go iawn, pecynnau rhodd o gwrw.
Utility Warehouse – Natalie Curtis Dim cynhyrchion, cyngor ar gyfleustodau a raffl fawr am ddim.
Welsh Valley Soapery Sebon, siampŵ a bariau cyflyrydd wedi’u gwneud â llaw, cynhyrchion baddon naturiol
Williams Brothers Cider Seidr poeth sbeislyd a seidr i fynd adref.

Rhaglen Adloniant

Amser Perfformiwr Cwmni
10.00am Alfie’r Coblyn ar gefn Rudolph (1) Juggling Jim
10.30am Ceirw ar Goesau Bachau (1) Flying Colours
11.00am Rapsgaliwns Fictoraidd (1) Digging Holes Street Theatre
11.15am Gŵr Bonheddig Fictoraidd (1) Flying Colours
11.30am Dyn/Menyw Eira ar Esgidiau Rholio (1) Flying Colours
12.00pm Alfie’r Coblyn ar gefn Rudolph (2) Juggling Jim
12.15pm Rapsgaliwns Fictoraidd (2) Digging Holes Street Theatre
12.30pm Ceirw ar Goesau Bachau (2) Flying Colours
1.00pm Gŵr Bonheddig Fictoraidd (2) Flying Colours
1.15pm Alfie’r Coblyn ar gefn Rudolph (3) Juggling Jim
1.30pm Rapsgaliwns Fictoraidd (3) Digging Holes Street Theatre
2.00pm Dyn/Menyw Eira ar Esgidiau Rholio (2) Flying Colours
2.30pm Ceirw ar Goesau Bachau (3) Flying Colours
2.45pm Rapsgaliwns Fictoraidd (4) Digging Holes Street Theatre
3.00pm Alfie’r Coblyn ar gefn Rudolph (4) Juggling Jim
3.15pm Gŵr Bonheddig Fictoraidd (3) Flying Colours
3.30pm Dyn/Menyw Eira ar Esgidiau Rholio (3) Flying Colours
4.00pm Rapsgaliwns Fictoraidd (5) Digging Holes Street Theatre

Essential information

Contact Name
Contact
Events Team
Email
Email Address
events@caerphilly.gov.uk
Pet Friendly
Pet Friendly

You may also be interested in: