Marchnad Nadolig Coed Duon 2025

November 22, 9:00am - November 22, 5:00pm

I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866500.

Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.

Dewch draw i Ffair y Gaeaf, Coed Duon, ar ddydd Sadwrn 22 Tachwedd i brofi hwyl a chyffro’r Nadolig!

P’un a ydych chi’n dymuno prynu anrheg Nadolig gynnar i chi eich hun neu’n chwilio am anrheg unigryw ar gyfer rhywun arbennig, gallwch grwydro o gwmpas detholiad bendigedig o stondinau bwyd a chrefft, yn ogystal â’r ystod wych o siopau annibynnol a brandiau’r stryd fawr. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle delfrydol i chi gychwyn ar eich siopa Nadolig chi.

Bydd digonedd o adloniant i’r teulu cyfan gyda dewis eang o reidiau ffair, yn ogystal â chymeriadau stryd a sioeau stryd Nadoligaidd! Bydd Cyngor Tref Coed Duon yn cynorthwyo’r digwyddiad gyda phrif lwyfan dan ei sang gyda grwpiau, dawnswyr a chantorion lleol i chi deimlo ysbryd yr ŵyl.

Bydd sled Siôn Corn a Band Pibau a Drymiau yn dod i fyny’r Stryd Fawr yng Nghoed Duon ar gyfer cynnau goleuadau’r Nadolig am 4.30pm!

Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM!

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i gynorthwyo gan Gyngor Tref Coed Duon.


Rhaglen Adloniant

Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Rhestr Stondinau

Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Mae’r Coed Duon yn Dref Smart!

Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Coed Duon, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.

Lawrlwythwch am ddim, yma.



Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

Essential information

Address
Address
Stryd Fawr, Coed Duon
NP12 1AH
Contact Name
Contact
Tîm Digwyddiadau CBSC
Phone
Phone
01443 866500
Website
Social Media
Facebook
Twitter
Instagram
Charges
Charges
AM DDIM
Pet Friendly
Pet Friendly

You may also be interested in: