Ydych chi’n breuddwydio am feicio ar hyd llwybr sengl perffaith? Am droi a throelli drwy goetir hyfryd; y golau’n pefrio drwy’r coed, tra bod eich coesau’n llosgi ac yn gofyn i chi roi’r gorau iddi, cyn dod i lawr y llwybr yn llyfn ac yn ddidrafferth?
Wedi’i enwi ar ôl y baedd gwyllt arswydus yn y Mabinogi, mae’r llwybr yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb – darnau heriol serth, llwybrau sy’n plymio i lawr ac adrannau technegol anodd. Ceir 15.5 cilomedr o lwybr sengl bron sy’n mynd trwy dirwedd a oedd unwaith wedi’i chreithio gan waith cloddio glo, ond sydd bellach yn un o drysorau cudd Cymru. Yn goron ar y cyfan – gallwch feicio ar hyd y llwybrau.
Nid yw’r Mynydd yn addas i’r gwangalon. Llawer o ysgafellau, ychydig o lwybrau sy’n codi ac yn disgyn, llwybrau dwbl, twnnel, grisiau carreg, y bont, neidiau lle mae angen newid cyfeiriad, ac yna mae naid dros y disgyniad i’r chwarel os ydych yn ddigon dewr, a’r adran ar y gwaelod lle y gallwch fynd nerth eich olwynion. Mae’r ffaith y cafodd ei gynllunio gan Phil Saxena o ‘Full Contact Racing’ a’i adeiladu gan feicwyr lleol, gan gynnwys Rowan Sorrell, yn golygu mai hwn yw un o’r llwybrau disgynnol gorau yn y DU.
O ddydd Llun, 13 Tachwedd, dechreuodd gwaith cwympo coed yn yr ardal o amgylch yr hen borthdy talu i Faes parcio 1 wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru barhau â’i raglen i fynd i’r afael â chlefyd y llarwydd yn Fforest Cwmcarn.
O ganlyniad, bydd llwybr beicio mynydd y Twrch yn dargyfeirio ar hyd dechrau dringfa Cafall ac yn ailymuno wrth adran Giant’s Finger, a bydd yr hen ffordd drwy’r goedwig ar gau o’r porthdy talu i Faes parcio 1. Mae’r dargyfeiriad hwn yn debygol o fod ar waith am dri i bedwar mis. Er eich diogelwch eich hun a diogelwch y gweithlu, cadwch draw o safle’r gwaith.
Mae’r llwybr hwn, sy’n codi i uchder o fwy na 400 metr, yn rhoi ymdeimlad o antur i chi.
Mae dringfeydd anodd ac adrannau cul o lwybr sengl a adeiladwyd â llaw yn uno â disgyniadau serth a thechnegol gwych (gwyliwch am adrannau Hideout, Rocky Valley, Heartbreak Ridge a Powder House), sy’n cynnig ymdeimlad ‘naturiol’ gwych i feicwyr mwy profiadol.
Os ydych yn chwilio am siop feiciau gyfeillgar, mae PS Cycles wedi’i leoli yn Cwmcarn Forest Drive.
Mae’n llogi beiciau traws gwlad/cynnal hyfforddiant beicio mynydd i grwpiau o 1 i 12 person. https://www.pscycles.co.uk/
Ar gyfer gwasanaeth codi beiciau mynydd Cwmdown, ewch i’r wefan: https://www.cwmdown.co.uk/