Parti Traeth Coed Duon 2024

July 13, 9:00am - July 13, 5:00pm

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Tref Coed Duon yn falch o gyhoeddi bod Parti Traeth Coed Duon yn dod i’r dref! Ddydd Sadwrn 13 Gorffenaf, bydd y Stryd Fawr, Coed Duon, NP12 1AH, yn cael ei thrawsnewid yn barti traeth trefol gyda digonedd o dywod, cadeiriau cynfas, a bwcedi a rhawiau i ddiddanu’r teulu cyfan. Bydd nifer fawr o reidiau ffair yn dod â bywyd i un pen y Stryd Fawr, a bydd stondinau, atyniadau a thraeth anferth yn y pen arall! Bydd Cyngor Tref Coed Duon hefyd yn trefnu prif lwyfan gyda rhaglen adloniant lawn drwy’r dydd, a fydd yn cynnwys cantorion, bandiau a dawnswyr lleol.

Bydd canol tref Coed Duon yn ferw o brysurdeb, gan roi hwb i nifer yr ymwelwyr â’r manwerthwyr a lleoliadau lletygarwch lleol, felly, cofiwch roi’r dyddiad yn y dyddiadur!

Cyngor Tref Coed Duon sy’n ariannu’r digwyddiad, a Thîm Digwyddiadau Caerffili sy’n ei drefnu.


Rhaglen Adloniant

Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


Rhestr Stondinau

Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.


 

 

 

Mae’r Coed Duon yn Dref Smart!

Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi ym Mharti Traeth Coed Duon, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.

Lawrlwythwch am ddim, yma!


 

Essential information

Address
Address
Stryd Fawr, Coed Duon
NP12 1AH
Phone
Phone
029 2088 0011
Charges
Charges
AM DDIM
Pet Friendly
Pet Friendly

You may also be interested in: