Edrychwch ar dudalen y digwyddiad ar Facebook.
Dewch i ddigwyddiad cyntaf erioed Pride Caerffili a fydd yn digwydd rhwng 12pm-7pm ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023.
Gall ymwelwyr ddisgwyl digwyddiad i’r teulu cyfan, gan gydnabod a dathlu’r cyfraniadau gan bobl LHDTC+ yn ein cymdeithas. Ar y diwrnod, bydd adloniant byw a Gorymdaith Balchder eiconig i ddathlu.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn o Ysgol Martin Sant, Caerffili am 12pm, gan anelu lawr drwy’r dref ac yn mynd o amgylch Maes Parcio’r Twyn lle bydd yn gorffen.
Bydd yn ddiwrnod gwych llawn cerddoriaeth fyw, adloniant a dathlu wrth ddod at ein gilydd mewn cefnogaeth dros y gymuned LHDTC+ ym mwrdeistref sirol Caerffili.
Ydych chi eisiau cymryd rhan? Mae Pride Caerffili ar 24 Mehefin a bydd yn ddiwrnod llawn dathlu! Bydden ni wrth ein bodd pe baech yn cymryd rhan yn ein Gorymdaith Balchder, rhowch wybod i ni drwy lenwi’r ffurflen: bit.ly/3pMCHzo
Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym Maes Parcio’r Twyn, Canol Tref Caerffili, CF83 1JL, lle bydd y ffordd ar gau ar hyd Twyn Road.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.
Mae Caerffili yn Dref Smart!
Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Pride Caerffili, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.
Lawrlwythwch am ddim, yma – bit.ly/3WfRG0J
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.
#CroesoCaerffili #DewisLleol #UKSPF