Parti Traeth Rhisga
Dydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Mai 2022
10am–4pm
Llinell wybodaeth: 029 2088 0011
Mae Parti Traeth Rhisga yn ddigwyddiad newydd sy’n cael ei gynnal ym Mharc Tredegar, sydd wedi’i leoli oddi ar Tredegar Street yng nghanol tref Rhisga.
Bydd y digwyddiad deuddydd newydd hwn yn gartref i draeth anferth yn llawn cadeiriau cynfas a theganau traeth i ddiddanu pawb. Bydd sioeau Pwnsh a Siwan yn cael eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol y dydd a bydd detholiad o reidiau ffair i bobl ifanc, ynghyd ag amrywiaeth o atyniadau i ddiddanu pawb.
Bydd nifer fach o stondinau yn gwerthu losin, brownis, a phice ar y maen, yn ogystal â diodydd poeth ac oer, tatws ar ffurf troell, ‘Dinky Donuts’ a’r fan hufen iâ holl bwysig! Beth am fentro i’r dref a #DewisLleol… dewch â sglodion neu ddanteithion picnic yn ôl i’w mwynhau ar y traeth a chefnogi’r manwerthwyr lleol… gwyliwch yr asynnod ond peidio â cheisio ymuno â’r amser bwydo!
Mae digon o fannau agored yn y parc ar gyfer picnic hefyd, felly, dewch â’ch blancedi a’ch danteithion gyda chi ac aros am y diwrnod. (Sylwer: Ni chaniateir alcohol yn y digwyddiad)
I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y parti traeth, gan gynnwys y rhaglen adloniant, stondinau a fydd yn bresennol a gweithgareddau eraill ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/events/
Masnachwyr yn y digwuddias hwn:
Ally’s Confectionary |
CCBC Community Regeneration |
Dinky Donuts (ANG Concessions) (1) |
Eleri’s Welshcakes |
Falconry UK |
Flynn’s Coffee |
Ridiculously Rich by Alana |
Signore Twister |
South Wales Fire and rescue service (Risca) |
The Slime Factory |
Tracey’s Funky Faces |
Unison Caerphilly |