Bydd y gweithdai yn cynnig profiad difyr i’r hen a’r ifanc. Gall plant ddefnyddio’u sgiliau creadigol a bydd oedolion yn cael y cyfle i ymddwyn fel plant a dangos eu doniau!
Wrth i’r Nadolig agosáu, beth am gael ychydig o hwyl gyda’r teulu? Dewch â’r plant i wneud llusern Nadoligaidd arbennig yn barod ar gyfer yr Orymdaith Llusernau Goleuni drwy dref Caerffili ddydd Iau, 19 Rhagfyr.
Bydd y gweithdai yn cynnig profiad difyr i’r hen a’r ifanc. Gall plant ddefnyddio’u sgiliau creadigol a bydd oedolion yn cael y cyfle i ymddwyn fel plant a dangos eu doniau!
P’un a yw’n llusern deuluol neu’n rhywbeth ychydig yn fwy anturus, bydd digon o bapur crefft a glud ar gael i bawb fod yn greadigol!
Gweithdai yng Nghanolfan Hamdden Caerffili (10am – 5pm):
Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr
Mae’r gweithdai YN RHAD AC AM DDIM ac yn llawer o hwyl i’r teulu cyfan.