Rock UK – The Summit Centre

Y ganolfan antur newydd sbon hon yw’r lle perffaith ar gyfer diwrnod allan i’r teulu. Mae’n cynnig dros 20 o weithgareddau antur â hyfforddwr, caffi trawiadol, man chwarae awyr agored, canolfan ddringo, a llety – mae’n rhaid ymweld â Chanolfan Summit!

Gweithgareddau

O sesiynau rhagflas i hyfforddiant profiadol, mae gan Ganolfan Summit amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer pob gallu. Darperir pob darn o offer ac nid oes angen unrhyw brofiad. Mae modd archebu ar-lein yn rockuk.org/summit neu drwy ffonio 01443 710090. Mae modd i’r Ganolfan ddarparu ar gyfer teuluoedd, unigolion, a grwpiau mawr. Mae angen archebu ymlaen llaw.

Dyma rai o’r gweithgareddau sydd ar gael:
• Cwrs rhaffau uchel
• Saethyddiaeth
• Byw yn y gwyllt
• Ogofa
• Dringo
• Caiacio a chanŵio
• Adeiladu rafft

Llety
Yn dilyn prosiect ailddatblygu gwerth £4 miliwn, gall Canolfan Summit bellach gynnig llety en-suite newydd sbon ar gyfer hyd at 104 o westeion, neuadd fwyta a phob pryd bwyd, ystafelloedd cyfarfodydd a chynadleddau, maes chwaraeon, a gardd breifat i ymlacio ynddi. Mae modd i’r llety fod ar ffurf un adeilad mawr neu wedi’i rannu’n dair uned hunangynhwysol.

Bellach, gall Canolfan Summit gynnig:
• Llety en-suite a phob pryd bwyd i 104 o westeion
• Ystafelloedd cyfarfod i grwpiau/clybiau/mudiadau
• Caffi a man chwarae awyr agored sydd ar agor saith diwrnod yr wythnos
• Dros 20 o weithgareddau â hyfforddwr
• Canolfan gymnasteg a ffitrwydd
• Gradd 4* Croeso Cymru

Essential information

Address
Address
Summit Centre, The Old Drift Mine, Trelewis, Treharris
CF46 6RD
Contact Name
Contact
Rachel Allen
Email
Email Address
summit@rockuk.org
Phone
Phone
01443 710090
Website
Social Media
Facebook Page
CTA Member

You may also be interested in: