Sioe Bwyd A Chrefft Ar-Lein Caerffili

June 14, 9:00am - August 31, 5:00pm

Gan nad oes rhaglen digwyddiadau’r haf ar gyfer 2021, mae’n bleser mawr i arddangos y busnesau canlynol yn ‘Sioe Bwyd a Chrefft Ar-lein Caerffili’ i ddod â detholiad o gynhyrchion i chi eu prynu’n uniongyrchol gan y cyflenwyr drwy eu sianeli ar-lein! 

Hoffai Tîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili roi cyfle i ymwelwyr brynu rhai o’u hoff gynnyrch bwyd a diod sydd fel arfer ar gael yn y digwyddiadau blynyddol; yn ogystal â rhai o’r gwaith crefft unigryw sydd hefyd yn cael ei arddangos.

Mae digwyddiadau Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig cyfle bob blwyddyn ar gyfer cannoedd o fusnesau i arddangos eu cynhyrchion a gwasanaethau i gynulleidfa fawr, o drigolion lleol i ymwelwyr rhanbarthol a chenedlaethol.

Felly, os ydych chi wedi bod yn colli’r prynu blynyddol o’ch hoff ddiodydd a danteithion neu os oeddech chi’n gobeithio casglu’r anrheg anarferol honno ar gyfer priodas neu ben-blwydd yn un o’r digwyddiadau eleni – does dim angen edrych ymhellach. Mae detholiad gwych o gynnyrch bwyd, diod a chrefft ar flaenau’ch bysedd i chi eu pori a’u prynu heb frys! (Telerau ac Amodau’n berthnasol)

 

Essential information

Contact Name
Contact
events@caerphilly.gov.uk
Website
Social Media
Facebook

Downloads

Rhestru prif gynhyrchion >

Sioe Bwyd A Chrefft Ar-Lein >

CTA Member

You may also be interested in: