Mae South Wales 2000 yn falch o’i statws PREMIER PLUS, a roddwyd iddo am ei fod yn darparu disgyblaethau saethu colomennod clai a chyfleusterau gwych. Rydym yn darparu ar gyfer dechreuwyr i’r rhai mwyaf talentog a phrofiadol. Os nad ydych wedi rhoi cynnig ar saethu colomennod clai, beth amdani? Mae ein cynlluniau saethu yn hygyrch i bobl ag anableddau gan fod saethu colomennod clai yn rhywbeth y gall pawb ei wneud. Mae South Wales 2000 yn falch o ddarparu gwasanaethau ar gyfer timau Olympaidd a phencampwyr tîm Prydain Fawr. Gallwn roi hyfforddiant gyda chyfle i ddefnyddio gwn saethu dan oruchwyliaeth er mwyn eich rhoi ar ben ffordd i ddod yn seren Olympaidd efallai.
Mae South Wales 2000 yn cynnig cyfleuster corfforaethol ar gyfer gweithgareddau meithrin tîm neu ar gyfer diddanu gwesteion corfforaethol gyda chystadleuaeth hwyl neu fwy difrifol. Mae croeso i grwpiau mawr neu fach ac, wrth gwrs, gyplau ac unigolion. Darperir offer diogelu’r clustiau a’r llygaid yn ystod digwyddiadau corfforaethol, ac mae angen eu gwisgo bob amser wrth saethu neu wrth wylio unrhyw saethu sy’n digwydd gerllaw. Darperir cetris gynnau saethu, a bydd ein staff maes profiadol yn goruchwylio’r defnydd o gynnau saethu. Mae croeso i chi holi am brisiau a gwneud ceisiadau dros y ffôn neu drwy e-bost. Gellir darparu lluniaeth hefyd.
Mae South Wales 2000 wedi cael ei ail-broffilio’n ddiweddar i gynnwys tŷ clwb, cynllun aml-stondin a chwe maes saethu dan orchudd â chyfarpar electronig Progetti a thrapiau Promatic newydd ar gyfer dechreuwyr neu arbenigwyr hyd at safon fyd-eang a safon Olympaidd