Mae’r Lord Nelson Inn yn dafarn/bwyty mewn dwylo preifat yng nghanol Nelson, yn agos at nifer o atyniadau fel Llancaiach Fawr, y Ganolfan Ddringo Dan Do, Parc Beicio Cymru a Bannau Brycheiniog. Yr adeilad yw un o’r hynaf yn y pentref ac mae ganddo lawer o’r nodweddion o’r blynyddoedd a fu gyda lleoedd tân agored, nenfydau trawst isel a chilfachau a chorneli. Mae’n gyrchfan boblogaidd i bobl aros am noson neu ddwy yn ogystal â threfniadau hirach. Gellir cadw ystafell yn uniongyrchol neu drwy AirBnB.
Rydyn ni’n ail-ddyfeisio rhai o’r ystafelloedd ar hyn o bryd ac yn bwriadu gwneud gwaith ail-ddylunio er mwyn cynnig 5 lle cysgu dwbl modern gyda chyfleusterau en-suite.