Prynwch eich tocynnau ar gyfer “The Lovely Bones” yn Theatr Fach Coed Duon ar ddydd Gwener 22 a dydd Sadwrn 23 Mawrth!
Mae nofel Alice Sebold “The Lovely Bones” yn stori unigryw am ddod yn oedolyn a ddaliodd galonnau darllenwyr ledled y byd. Mae’r dramodydd arobryn, Bryony Lavery, wedi ei haddasu ar gyfer y ddrama fythgofiadwy hon am fywyd ar ôl colled.
Mae Susie Salmon yn union fel unrhyw ferch ifanc arall. Mae hi eisiau bod yn brydferth, mae hi’n dwlu ar ei breichled glain ac mae hi’n ffansio bachgen o’r ysgol. Ond, mae un gwahaniaeth mawr – mae Susie wedi marw. Nawr mae hi ond yn gallu arsylwi wrth i’w theulu yn ymdopi â’u galar yn eu gwahanol ffyrdd. Mae gan ei thad, Jack, obsesiwn ag adnabod y llofrudd. Mae ei mam, Abigail, yn ysu am greu bywyd gwahanol i’w hun. Ac mae ei chwaer, Lindsay, yn dod o hyd i’r rhyw gwahanol gyda phrofiadau na fydd Susie byth yn eu hadnabod. Mae Susie yn ysu i’w helpu ac efallai bod ffordd o’u cyrraedd nhw…
Wedi’i chyfarwyddo gan Anya O’Callaghan.