Mae’n gweini cacennau hyfryd, diodydd espresso sy’n cael eu gwneud â llaw ac amrywiaeth o fyrbrydau amser cinio.
Yn y caffi mae awyrgylch hamddenol gydag ardal ar gyfer teuluoedd, llyfrau a gemau bwrdd y gellir eu defnyddio am ddim.
Mae WiFi a phwyntiau gwefru ar gael am ddim.
Mae hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer rhieni a phlant bach, crefftau i oedolion a digwyddiadau gemau bwrdd drwy gydol yr wythnos!
Ar ben hynny, bydd unrhyw elw a wneir yn cael ei roi yn ôl i’r gymuned drwy Ymddiriedolaeth yr Hen Lyfrgell!