Woodlands Log Cabins & Tipi Holidays Wales

Mae Woodlands wedi’i leoli yng nghwm trawiadol Wattsville yn ne Cymru.

Mae’n lle hardd a thawel na fyddwch yn ei anghofio’n fuan. Felly, os ydych yn ystyried mynd ar wyliau yng Nghymru eleni, beth am ddianc rhag popeth a threulio ychydig o amser yng nghanol natur? …

Mae coetir llydanddail hynafol i’w archwilio, a choedwigoedd cyfagos. Mae nant yn rhedeg drwy waelod y cwm, ac mae llawer o lwybrau cerdded ar gael. Mae’r llety’n agos iawn i Barc Gwledig Cwm Sirhywi, sy’n 1,000 erw. Mae clwb saethu colomennod clai, clybiau golff a chanolfannau hamdden yn agos hefyd. Mae archfarchnadoedd 10 munud i ffwrdd yn Rhisga neu Goed Duon – sydd â sinema aml-sgrin hefyd. Gallwch ddod â’ch anifeiliaid anwes gyda chi, ond rhaid eu cadw dan reolaeth.

Y Caban

Yn y caban mae lle cysgu i bum unigolyn yn yr ystafell ddwbl gartrefol (bach) ac ail ystafell wely sydd â gwely dwbl â bync drosto. Mae gwely soffa ar gael i ddau unigolyn arall os oes angen. Mae hefyd ystafell gawod, ystafell golchi dillad a thoiled sy’n addas ar gyfer pobl ag anableddau. Mae’r gegin gyflawn yn cynnwys popty trydan, ffrïwr sglodion, tostiwr, tegell, microdon, oergell/rhewgell, peiriant tostio brechdanau yn ogystal â’r holl offer a llestri arferol. Mae’r ardal fyw cynllun agored yn cynnwys teledu a dyfais chwarae cerddoriaeth. Mae hefyd stôf aml-danwydd (darperir bag cychwynnol o goed) a mesurydd darn arian ar gyfer y trydan. Y bwriad yw gosod twba twym erbyn yr haf.

Y Tipi

Mae’r tipi yn brosiect newydd, ac mae wedi’i leoli mewn padog bach uwchlaw safle’r caban – nodwch NAD oes trydan ar y safle hwn. Mae’n seiliedig ar dipi Siŵaidd, ac enw’r tipi yw ‘Canowcanakte’ – sy’n golygu heliwr coedwig mewn Siŵeg. Mae lle cysgu i bum unigolyn ar welyau futon. Mae dillad gwely yn cael ei ddarparu a’i storio mewn unedau otoman. Mae’n eco-safle ag adeilad pren rystig sy’n cynnwys y toiled/ystafell gawod. Mae popty barbeciw â sinc/bwrdd diferu ar gael ar gyfer coginio. Mae pwll tân hefyd â thrybedd ar gyfer coginio’n naturiol. Mae lampau nwy bach yn darparu golau, a gallwch ddod â’ch lampau eich hun hefyd.

Cefndir Woodlands

Daeth y caban pren o Estonia tua phedair blynedd yn ôl a chafodd ei adeiladu’n gyfan gwbl gan y perchenogion. Cafodd ei adeiladu’n wreiddiol er mwyn bod yn ganolfan ddydd ar gyfer pobl ag anghenion arbennig (nid llety gwyliau). Cafodd gwaith ei wneud rhwng mis Medi a Nadolig y llynedd i’w droi’n llety gwyliau.

Essential information

Address
Address
Troed-y-Rhiw Farm, Wattsville, Crosskeys
NP11 7QS
Contact Name
Contact
Tony Edwards
Email
Email Address
penytrwyn@sky.com
Phone
Phone
07778 110829
Website
Website
Website
CTA Member

You may also be interested in: