Gallwch ddewis Taith Gerdded Nantcarn ar hyd y llyn, neu Daith Gerdded 1807 sy’n fwy egnïol, yn 9 milltir o hyd, ac yn cynnwys nodweddion hanesyddol, coetiroedd trawiadol a golygfeydd gwych. Noder: Mae gwyriadau ar waith ar hyd nifer o’n teithiau cerdded hirach oherwydd y gwaith torri coed ar y safle; holwch yn y ganolfan ymwelwyr cyn cychwyn, neu ddilyn arwyddion y gwyriad ar y llwybrau. Pum taith gerdded wych yng Nghoedwig Cwmcarn Mae teithiau cerdded sy’n addas i bob gallu, gan gynnwys taith llai na milltir i daith naw milltir. Mae pob un yn cynnig gwahanol olygfeydd a thirwedd sy’n cynnwys harddwch Coedwig Cwmcarn, y llyn eang a llawr y cwm. Yn ystod y gwahanol dymhorau y daw fflora a ffawna gwahanol; mwynhewch Daith Gerdded Clychau’r Gog ym mis Mai pan fydd clychau’r gog yn eu blodau, neu yn yr hydref pan fydd y dail yn newid ac yn cynnig golygfeydd a lliwiau cyferbyniol. Mae pob un o’n teithiau cerdded wedi’u rhestru isod, a bydd cyfarwyddiadau ar gael i’w lawrlwytho cyn bo hir. Her Archwiliwr Bywyd Gwyllt Cwmcarn Mynnwch fod yn archwiliwr bywyd gwyllt trwy ddilyn y map archwiliwr er mwyn dod o hyd i 21 o byst arbennig ar hyd y daith gerdded gylchol fer o 1.2 milltir. Galwch heibio i’r Ganolfan Ymwelwyr i brynu eich pecyn Archwilio (gan gynnwys creonau) a mynd ati i archwilio. Dewch o hyd i’r plac metel cudd ar bob postyn, a’i baru â’r llun cywir yn y llyfryn Archwiliwr. Gwnewch rwbiad o’r plac yn eich llyfryn a symud ymlaen i ddod o hyd i’r postyn nesaf! Ar ôl ei gwblhau, gellir prynu tystysgrif Archwiliwr
visitor centre reception. Happy exploring! Booklets are available from the visitor Centre reception for £1.50 between 9am – 5pm daily. For more information please visit the Cwmcarn Forest https://www.cwmcarnforest.co.uk/activities/walking-at-cwmcarn/ Bywyd Gwyllt o dderbynfa’r ganolfan ymwelwyr. Hapus yn archwilio! Mae llyfrynnau ar gael o dderbynfa’r ganolfan ymwelwyr am £1.50, rhwng 9am a 5pm bob dydd. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Coedwig Cwmcarn www.cwmcarnforest.co.uk/cy/activities/walking-at-cwmcarn