Caiff eu seidrau aml-wobrwyol eu creu yn ofalus â llaw gan ddefnyddio dulliau traddodiadol yn eu cyfleuster tŷ seidr pwrpasol yng Nghaerffili. Maen nhw’n sicrhau mai dim ond y ffrwyth o’r ansawdd gorau sy’n cael eu dewis i symud ymlaen at eu melin a gwasg seidr i gynhyrchu sudd afal o ansawdd uchel er mwyn ei eplesu i seidr go iawn.
Mae ganddyn nhw safonau uchel iawn ac ethos o sicrhau bod creu seidr nid yn unig o’r ansawdd uchaf, ond hefyd i sicrhau bod y teulu cyfan yn cael hwyl ar hyd y ffordd.