{"id":16431,"date":"2026-03-18T12:25:06","date_gmt":"2026-03-18T12:25:06","guid":{"rendered":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/?p=16431"},"modified":"2026-03-18T12:26:57","modified_gmt":"2026-03-18T12:26:57","slug":"yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/","title":{"rendered":"Yr \u0174yl Fawr Gymreig yn denu miloedd o ymwelwyr i lansio rhaglen ddigwyddiadau 2026"},"content":{"rendered":"\t<section id=\"\" class=\"block text-block\">\n\t\t<div class=\"wrapper\">\n\t\t\t<p>Daeth miloedd o ymwelwyr i ddigwyddiad cyntaf 2026, yr \u0174yl Fawr Gymreig, a gafodd ei gynnal ddydd Sadwrn 28 Chwefror.<\/p>\n<p>Daeth teuluoedd, cyplau a grwpiau o ffrindiau o bob oed i fwynhau digwyddiad cofiadwy yng nghanol y dref. Roedd dewis trawiadol o stondinau busnesau a masnachwyr lleol yn arddangos bwyd blasus, nwyddau wedi&#8217;u gwneud \u00e2 llaw a gwybodaeth werthfawr, ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o weithgareddau i blant, gan gynnwys reidiau ffair, dafad rodeo a gweithdai crefft am ddim.<\/p>\n<p>Daeth theatr stryd \u00e2 thema Gymreig \u00e2 naws llawn sbri i&#8217;r diwrnod, gyda chennin Pedr enfawr, chwaraewyr rygbi, gwraig mewn gwisg draddodiadol, draig goch, tylwyth teg Celtaidd a hyd yn oed ffermwr gyda&#8217;i ddefaid yn rhyngweithio \u00e2&#8217;r torfeydd. Ychwanegodd llu o ddiddanwyr bywiog at yr awyrgylch, gan ennyn diddordeb ymwelwyr gyda digon o hwyl drwy gydol y digwyddiad. Roedd cerddoriaeth fyw yn uchafbwynt mawr gydag amrywiaeth o berfformwyr, gan gynnwys perfformiadau teyrnged i Tom Jones ac eiconau eraill Cymru, yn ogystal \u00e2 chaneuon traddodiadol poblogaidd a oedd yn annog y gynulleidfa i gydganu.<\/p>\n<p>Roedd y gefnogaeth gan fusnesau lleol yn eithriadol, gyda llawer yn ymestyn eu presenoldeb i&#8217;r strydoedd, drwy ddosbarthu gwybodaeth y tu allan i&#8217;w safleoedd. Roedd ffenestri siopau hyd yn oed wedi&#8217;u haddurno&#8217;n falch \u00e2 baneri Cymru.<\/p>\n<p>Prif bwrpas y digwyddiadau hyn yw annog ymwelwyr i ddod i ganol ein trefi, ac yn sicr, fe wnaeth y digwyddiad hwn gyflawni hynny. Nesaf, bydd Coed Duon yn cynnal y Parti Traeth blynyddol ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf a&#8217;r Farchnad Nadolig, Cynnau&#8217;r Goleuadau Nadolig a Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni ddydd Sadwrn 28 Tachwedd, sef rhagor o ddyddiadau allweddol i&#8217;w hychwanegu at eich dyddiadur. Mae&#8217;r digwyddiadau hyn yn codi proffil ein trefi ac yn cyflwyno ymwelwyr i&#8217;r dewis helaeth o fusnesau lleol yn y stryd fawr.<\/p>\n<p>Dywedodd Maer Coed Duon, y Cynghorydd George Etheridge, ar ran Cyngor Tref Coed Duon,<\/p>\n<p>\u201cRoedd yr \u0174yl Fawr Gymreig yn ddigwyddiad gwych y mae llawer o bobl wedi&#8217;i fwynhau, ac roedd yr haul yn disgleirio drwy&#8217;r dydd sydd bob amser yn fonws! Rhoddodd masnachwyr adborth cadarnhaol a phostio lluniau gwych ar Facebook. Hoffen ni ddiolch i fusnesau Bargod, Caerffili, Rhisga ac Ystrad Mynach am eu cymorth i hysbysebu&#8217;r \u0175yl yng nghanol eu trefi. Roedd mor braf gweld y bartneriaeth gymunedol hon. Mae Cyngor Tref Coed Duon yn falch o roi cymorth ariannol i ddigwyddiadau o&#8217;r fath ac yn edrych ymlaen at weithio gyda th\u00eem digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili drwy helpu ariannu a chynnal digwyddiadau yn y dyfodol yng nghanol y dref eleni.\u201d<\/p>\n<p>Y digwyddiad nesaf yn y calendr yw <a href=\"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/?post_type=events&#038;p=16003\"><strong>Ffair y Gwanwyn, Bargod<\/strong><\/a>, ar ddydd Sadwrn 21 Mawrth. Mae&#8217;r manylion llawn ar gael gan Croeso Caerffili ar y\u00a0<a href=\"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/\"><strong>wefan<\/strong><\/a>\u00a0a&#8217;r cyfryngau cymdeithasol.<\/p>\n<p>Diolch i Gyngor Tref Coed Duon a Chronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig am ariannu&#8217;r digwyddiad a Robert Price am noddi&#8217;r digwyddiad.<\/p>\n<p><strong>Dyma&#8217;r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am y digwyddiad:<\/strong><\/p>\n<p>Eleri&#8217;s Welsh Cakes o Ben-y-bont ar Ogwr \u2013 \u201cRoedd yr \u0174yl Fawr Gymreig yng Nghoed Duon yn llwyddiant ysgubol \u2013 heulwen, ysbryd cymunedol a digon o bice ar y maen! Cawson ni ein syfrdanu gan y gefnogaeth ac rydyn ni&#8217;n falch o ddweud y gwnaethon ni werthu popeth ar y diwrnod. Does dim byd gwell na gweld pobl yn mwynhau blas ar Gymru gyda&#8217;i gilydd.\u201d<\/p>\n<p>Busnes o Fwrdeistref Sirol Caerffili, Karen&#8217;s Bookshop, mewn partneriaeth ag Usborne \u2013 \u201cRoedd yn hyfryd gweld cynifer o bobl yn manteisio i&#8217;r eithaf ar yr heulwen ac yn cefnogi busnesau lleol.\u201d<\/p>\n<p>Busnes o Fwrdeistref Sirol Caerffili, Banana Pudd \u2013 \u201cRoedden ni eisiau dweud diolch yn fawr am gael PUDD yn yr \u0174yl Fawr Gymreig. Roedd yn ddiwrnod anhygoel ac wedi&#8217;i drefnu&#8217;n wych! Diolch am holl waith caled T\u00eem Digwyddiadau&#8217;r Cyngor i&#8217;w wneud yn ddiwrnod mor wych! Dyma&#8217;r digwyddiad cyntaf erioed i&#8217;n busnes pwdin banana \u2018PUDD\u2019 ac fe wnaethon ni werthu popeth wrth i&#8217;r haul dywynnu!\u201d<\/p>\n<p>Baked in Blackwood \u2013 \u201cCawson ni ddiwrnod gwych a chawson ni gwrdd \u00e2 llawer o gwsmeriaid newydd. Roedd yn hyfryd gweld y dref mor brysur a darllen yr holl adborth cadarnhaol a gafodd ei bostio am y digwyddiad. Daeth y gweithgaredd \u2018Dod o hyd i&#8217;r Defaid\u2019 \u00e2 llawer o blant i&#8217;n siop ni hefyd a rhoddon ni losin iddyn nhw am gymryd rhan.\u201d<\/p>\n<p>McKenzie&#8217;s Caf\u00e9 Bar \u2013 \u201cLlongyfarchiadau enfawr i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am gynnal digwyddiad mor wych! Roedd yn anhygoel gweld y Stryd Fawr mor brysur ag yr oedd, ac mor hyfryd gweld wynebau newydd a chyfarwydd allan yn mwynhau&#8217;r diwrnod. Roedd yn ddi-stop o&#8217;r dechrau i&#8217;r diwedd. Da iawn i&#8217;r t\u00eem cyfan am weithio mor galed ar ddiwrnod mor brysur a&#8217;i wneud yn llwyddiant go iawn.\u201d<\/p>\n<p>Perfformiwr, Russell Jones Jr \u2013 \u201cCes i amser gwych yn perfformio yn yr \u0174yl Fawr Gymreig yng Nghoed Duon ar gyfer Dydd G\u0175yl Dewi. Roedd yn anrhydedd llwyr perfformio a dathlu popeth gwych am Gymru. Roedd mor hyfryd gweld wynebau cyfarwydd, selogion a rhannu&#8217;r llwyfan gyda thalent wych.\u201d<\/p>\n<p>Diddanwr, Katie &amp; Friends \u2013 \u201cMae digwyddiadau fel hyn yn ein hatgoffa ni pa mor bwerus mae cysylltiad, diwylliant a charedigrwydd mewn gwirionedd. Roedd ein Tylwyth Teg Celtaidd wrth ei bodd yn rhannu gw\u00ean, sgyrsiau caredig, a thaenu ychydig o hud natur ar hyd y ffordd! Diolch o galon i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (a Chyngor Tref Coed Duon!) am ddod \u00e2 phawb at ei gilydd a dathlu Cymru mewn ffordd mor wych. Rydw i&#8217;n teimlo&#8217;n falch iawn o fod wedi bod yn rhan ohono.\u201d<\/p>\n\t\t<\/div>\n\t<\/section>\n\t","protected":false},"excerpt":{"rendered":"","protected":false},"author":10,"featured_media":16430,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":true,"inline_featured_image":false,"footnotes":"","_links_to":"","_links_to_target":""},"categories":[925],"tags":[],"tc_location":[957],"class_list":["post-16431","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion","tc_location-coed-duon"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Yr \u0174yl Fawr Gymreig yn denu miloedd o ymwelwyr i lansio rhaglen ddigwyddiadau 2026 | Visit Caerphilly<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Yr \u0174yl Fawr Gymreig yn denu miloedd o ymwelwyr i lansio rhaglen ddigwyddiadau 2026 | Visit Caerphilly\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Visit Caerphilly\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2026-03-18T12:25:06+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-03-18T12:26:57+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/The-Big-Welsh-Festival-Press-Release-Image.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"940\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"788\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"bussupmarketing@caerphilly.gov.uk\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"bussupmarketing@caerphilly.gov.uk\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"bussupmarketing@caerphilly.gov.uk\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/en\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/92d393ad02b9faf9cd606b4394f17413\"},\"headline\":\"Yr \u0174yl Fawr Gymreig yn denu miloedd o ymwelwyr i lansio rhaglen ddigwyddiadau 2026\",\"datePublished\":\"2026-03-18T12:25:06+00:00\",\"dateModified\":\"2026-03-18T12:26:57+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\\\/\"},\"wordCount\":13,\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/03\\\/The-Big-Welsh-Festival-Press-Release-Image.jpg\",\"articleSection\":[\"Newyddion\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\\\/\",\"name\":\"Yr \u0174yl Fawr Gymreig yn denu miloedd o ymwelwyr i lansio rhaglen ddigwyddiadau 2026 | Visit Caerphilly\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/en\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/03\\\/The-Big-Welsh-Festival-Press-Release-Image.jpg\",\"datePublished\":\"2026-03-18T12:25:06+00:00\",\"dateModified\":\"2026-03-18T12:26:57+00:00\",\"author\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/en\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/92d393ad02b9faf9cd606b4394f17413\"},\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/03\\\/The-Big-Welsh-Festival-Press-Release-Image.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2026\\\/03\\\/The-Big-Welsh-Festival-Press-Release-Image.jpg\",\"width\":940,\"height\":788},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Hafan\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Newyddion\",\"item\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/categori\\\/newyddion\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Yr \u0174yl Fawr Gymreig yn denu miloedd o ymwelwyr i lansio rhaglen ddigwyddiadau 2026\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/en\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/en\\\/\",\"name\":\"Visit Caerphilly\",\"description\":\"Visit Caerphilly\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/en\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/en\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/92d393ad02b9faf9cd606b4394f17413\",\"name\":\"bussupmarketing@caerphilly.gov.uk\",\"image\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/9b614b8210c5e35d0fd4396fd31e0e39d4b69f6dae45f1221371d12f81695b5a?s=96&d=mm&r=g\",\"url\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/9b614b8210c5e35d0fd4396fd31e0e39d4b69f6dae45f1221371d12f81695b5a?s=96&d=mm&r=g\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/secure.gravatar.com\\\/avatar\\\/9b614b8210c5e35d0fd4396fd31e0e39d4b69f6dae45f1221371d12f81695b5a?s=96&d=mm&r=g\",\"caption\":\"bussupmarketing@caerphilly.gov.uk\"},\"url\":\"https:\\\/\\\/www.visitcaerphilly.com\\\/cy\\\/author\\\/bussupmarketingcaerphilly-gov-uk\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Yr \u0174yl Fawr Gymreig yn denu miloedd o ymwelwyr i lansio rhaglen ddigwyddiadau 2026 | Visit Caerphilly","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Yr \u0174yl Fawr Gymreig yn denu miloedd o ymwelwyr i lansio rhaglen ddigwyddiadau 2026 | Visit Caerphilly","og_url":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/","og_site_name":"Visit Caerphilly","article_published_time":"2026-03-18T12:25:06+00:00","article_modified_time":"2026-03-18T12:26:57+00:00","og_image":[{"width":940,"height":788,"url":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/The-Big-Welsh-Festival-Press-Release-Image.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"bussupmarketing@caerphilly.gov.uk","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"bussupmarketing@caerphilly.gov.uk"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/"},"author":{"name":"bussupmarketing@caerphilly.gov.uk","@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/en\/#\/schema\/person\/92d393ad02b9faf9cd606b4394f17413"},"headline":"Yr \u0174yl Fawr Gymreig yn denu miloedd o ymwelwyr i lansio rhaglen ddigwyddiadau 2026","datePublished":"2026-03-18T12:25:06+00:00","dateModified":"2026-03-18T12:26:57+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/"},"wordCount":13,"image":{"@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/The-Big-Welsh-Festival-Press-Release-Image.jpg","articleSection":["Newyddion"],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/","url":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/","name":"Yr \u0174yl Fawr Gymreig yn denu miloedd o ymwelwyr i lansio rhaglen ddigwyddiadau 2026 | Visit Caerphilly","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/en\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/The-Big-Welsh-Festival-Press-Release-Image.jpg","datePublished":"2026-03-18T12:25:06+00:00","dateModified":"2026-03-18T12:26:57+00:00","author":{"@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/en\/#\/schema\/person\/92d393ad02b9faf9cd606b4394f17413"},"breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/The-Big-Welsh-Festival-Press-Release-Image.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/wp-content\/uploads\/2026\/03\/The-Big-Welsh-Festival-Press-Release-Image.jpg","width":940,"height":788},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/yr-wyl-fawr-gymreig-yn-denu-miloedd-o-ymwelwyr-i-lansio-rhaglen-ddigwyddiadau-2026\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Hafan","item":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Newyddion","item":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/categori\/newyddion\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Yr \u0174yl Fawr Gymreig yn denu miloedd o ymwelwyr i lansio rhaglen ddigwyddiadau 2026"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/en\/#website","url":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/en\/","name":"Visit Caerphilly","description":"Visit Caerphilly","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/en\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/en\/#\/schema\/person\/92d393ad02b9faf9cd606b4394f17413","name":"bussupmarketing@caerphilly.gov.uk","image":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9b614b8210c5e35d0fd4396fd31e0e39d4b69f6dae45f1221371d12f81695b5a?s=96&d=mm&r=g","url":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9b614b8210c5e35d0fd4396fd31e0e39d4b69f6dae45f1221371d12f81695b5a?s=96&d=mm&r=g","contentUrl":"https:\/\/secure.gravatar.com\/avatar\/9b614b8210c5e35d0fd4396fd31e0e39d4b69f6dae45f1221371d12f81695b5a?s=96&d=mm&r=g","caption":"bussupmarketing@caerphilly.gov.uk"},"url":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/author\/bussupmarketingcaerphilly-gov-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/16431","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/10"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=16431"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/16431\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/16430"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=16431"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=16431"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=16431"},{"taxonomy":"tc_location","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcaerphilly.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tc_location?post=16431"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}